CYNLLUNIO

DEWIS STRATEGAETHAU

Nod y strategaethau hyn yw i alluogi cynnydd yn hyder a lles dysgwyr, adeiladu perthynas a dyfnhau eu dealltwriaeth drwy’r Gymraeg. Mae datblygiad ieithyddol y dysgwr yn rhan annatod o roi’r strategaethau hyn ar waith. Ni ddylent gael eu cyflwyno a’u hymarfer yn ynysig ond yn hytrach yn rhan o broses ddysgu sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd ar draws yr ystod sgiliau siarad a gwrando.

Bydd cyflwyno’r strategaethau hyn drwy gyfryngau digidol yn cynnig sawl mantais ychwanegol i’r broses ddysgu e.e. cynnal brwdfrydedd, dull amgen o gyflwyno tasg, cadw tystiolaeth a chofnod o gynnydd, gallu dal trafodaethau mewn grwpiau yn y dosbarth ac ail ymweld â hwy i bwrpas myfyrio/rhannu arferion, cyflwyno gwybodaeth a’i rannu drwy gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ddefnyddio strategaethau penodol i dargedu’r ystod sgiliau siarad a gwrando e.e. i ddatblygu hyder dysgwyr tawedog, gallwch ddefnyddio strategaethau megis ‘y crynhowr tawel’, ‘trafodaeth Harkness’ a ‘safleoedd’

Bwriad yr adnodd hwn yw cynnig awgrym posib yn unig o strategaeth y gellir ei defnyddio fel rhan o’r broses ddysgu.

Magu Hyder

Mae defnyddio strategaethau sy’n magu hyder yn gallu cael effaith uniongyrchol ar les personol a hunan-barch y dysgwyr Byddant yn debygol o ymgysylltu mwy gyda’u tasgau gan ryngweithio â’u cyfoedion ac oedolion yn fwy bwriadus. Yn ogystal mae’r strategaethau yma yn cefnogi’r dysgwyr i:

  • gyfathrebu’n dda efo’i gilydd

  • i gael eu clywed gan eraill a chael eu gwerthfawrogi

  • fwynhau profiadau cymdeithasol

  • baratoi ar gyfer y byd gwaith

  • allu mynegi eu meddyliau, teimladau ac emosiynau yn eglur

  • helpu, trafod a deall sut maent yn dysgu

  • ryngweithio gydag eraill mewn ffordd gadarnhaol

Adeiladu Perthynas

Mae defnyddio strategaethau er mwyn adeiladu perthynas yn galluogi dysgwyr i siarad a gwrando mewn hinsawdd gynhaliol. Bydd hyn yn arwain at fwy o barodrwydd i gyfrannu, rhannu syniadau a barn, gofyn cwestiynau a dangos parch at eraill.

Yn ogystal mae’r strategaethau yma yn cefnogi’r dysgwyr i:

  • gyfathrebu’n dda efo’i gilydd

  • gael eu clywed gan eraill a chael eu gwerthfawrogi

  • baratoi ar gyfer y byd gwaith

  • ryngweithio gyda eraill mewn ffordd gadarnhaol

Dyfnhau Dealltwriaeth

Mae defnyddio strategaethau sy’n dyfnhau dealltwriaeth yn sicrhau bod dysgwyr yn trafod a’i gilydd a gwrando i geisio eglurhad, cwestiynu a chrynhoi. Maent yn gwneud cysylltiadau, archwilio syniadau a dod i gasgliadau. Mae hyn yn berthnasol ar draws y meysydd dysgu.

Yn ogystal mae’r strategaethau yma yn cefnogi’r dysgwyr i:

  • baratoi ar gyfer y byd gwaith

  • allu mynegi eu meddyliau, teimladau ac emosiynau yn eglur

  • helpu, trafod a deall sut maent yn dysgu

  • wella canlyniadau ar draws y meysydd dysgu

  • gofio ac adalw gwybodaeth

  • drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau

Defnyddiwch yr adnodd isod i ddarganfod y strategaethau mwyaf priodol i dargedu’r ‘agwedd i’w datblygu’ yn eich ysgol.

h

Templedi cyflwyno strategaethau i ddysgwyr

Gyda diolch i Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD) am rannu adnodd ‘Trysorfa Llais 21’ ac i Wasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) am yr arweiniad ar gyfer rhoi nifer o’r strategaethau ar waith

h

Arf dewis strategaethau (Google Sheets)

Defnyddiwch y ‘Filter’ yn rhes 2 i’ch cynorthwyo i ddarganfod y strategaethau mwyaf priodol.

Dewis Strategaethau

Digidol

Adnoddau cefnogol