CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: 1 i 20

Bydd y dysgwyr yn siarad fesul un ond bydd y dosbarth yn cyfrif o 1 i 20 rhwng pob siaradwr.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Nôd y stategaeth yw cyfri hyd at y rhif 20 fel dosbarth wrth i bob aelod o’r dosbarth gael cyfle i gyfrannu un rhif. Mae’r dasg yn cryfhau dealltwriaeth y disgyblion o ofynion cymdeithasol ac emosiynol siarad a gwrando o’r Fframwaith Llafaredd. Mae gofyn i’r disgyblion edrych yn ofalus ar ei gilydd, bod yn ymwybodol o gyfraniad eraill ac aros yn amyneddgar am gyfle i siarad. 

Eglurwch i’r myfyrwyr eu bod nhw fel grŵp yn mynd i gyfrif o un i ugain. Fodd bynnag, ni allant ddatblygu trefn neu system i’w helpu. Yn lle hynny, ar ôl iddyn nhw ddweud un, rhaid i fyfyriwr arall neidio i mewn a dweud dau, tri gan berson arall. Os bydd dau berson yn siarad ar yr un pryd, rhaid iddynt ddechrau eto. 

Mae gofyn bod y dysgwyr yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei ddweud gan eraill, ac yn ymateb yn briodol. Mae hi’n bosib dechrau’n syml gan gyfri o 1 i 20 yn unig. I ddatblygu’r strategaeth ymhellach, mae posib i’r disgybl sy’n cynnig y rhif, gynnig ffaith berthnasol i thema’r wers hefyd.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)