CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Cartŵn cysyniad

Bydd y dysgwyr yn derbyn poster neu gartŵn sy’n cynnwys cysyniadau iddynt ymateb iddynt. Gall y cysyniadau neu’r farn ar y poster neu’r cartŵn fod yn rhai cywir neu anghywir. Sbardun yw’r poster neu’r cartŵn i annog trafodaeth.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Bydd y dysgwyr yn derbyn poster neu gartŵn sy’n cynnwys cysyniadau iddynt ymateb iddynt. Gall y cysyniadau neu’r farn ar y poster neu’r cartŵn fod yn rhai cywir neu anghywir. Sbardun yw’r poster neu’r cartŵn i annog trafodaeth.

Mae posib defnyddio’r Cartŵn Cysyniad ar ddechrau neu ar ddiwedd uned o waith ac mae’n ffordd effeithiol o gymhwyso gwybodaeth flaenorol, datblygu dealltwriaeth ac annog cyfraniad gan bawb. Drwy gynnig barn neu syniad i’r dysgwyr, gall hyn annog dysgwyr anfoddog neu dawel i gyfrannu at y drafodaeth ond gellir datblygu’r ymateb gan ofyn i’r disgyblion ymhelaethu a chynnig rhesymau am eu hatebion.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Strategaeth ‘Cartŵn cysyniad’ (Trysorfa Llais 21 / Voice 21)
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/cartwn-cysyniad

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)

Arferion da: