DYSGU
PROFFESIYNOL
Adnoddau i gefnogi Dysgu Proffesiynol
Pwrpas yr adnoddau canlynol yw cefnogi ymarferwyr ac arweinwyr i roi rhaglen Ein Llais Ni ar waith yn effeithiol yn yr ysgol. Mae’n yn cynnwys gweithdai ymarferol y gellir eu cynnal gyda staff, recordiadau o weminarau yn cyflwyno elfennau penodol o’r rhaglen a chanllawiau defnyddiol eraill.
Cyflwyniad i raglen Ein Llais Ni
Mae’r pecyn hwn yn rhoi trosolwg o’r rhaglen Ein Llais Ni. Mae’n amlinellu pwysigrwydd datblygu llafaredd y Gymraeg ar draws y cwricwlwm ac yn cynnwys adnoddau a darpariaeth i gefnogi staff ac arweinwyr. Bwriad y rhaglen ydy rhoi sylw i ddatblygu addysgeg, ymgorffori strategaethau er mwyn gyrru cynnydd mewn sgiliau siarad a gwrando Cymraeg ar draws yr ystod oed a hynny yng nghyd-destun Cymru a’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r rhaglen yn cynnig sawl ffordd o weithio er mwyn ymateb i anghenion amrywiaeth o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.
Creu Gweledigaeth
Bwriad y pecyn yma yw i gefnogi llunio gweledigaeth ysgol gyfan sy’n rhoi lle amlwg i bwysigrwydd llafaredd a chyfathrebu effeithiol. Mae rôl allweddol gan bob ymarferydd i ddatblygu’r sgilau hyn ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Rhoddir sylw i wybod beth yw llafaredd a chanfyddiadau ymchwil; adnabod cyfraniad llafaredd i’r 4 diben; adnabod cyfleoedd i ddatblygu llafaredd yn y Cwricwlwm i Gymru; adnabod be’ sy’n bwysig i’r ysgol; adnabod geiriau grymus sy’n cyfleu dyheadau’r ysgol ar gyfer llafaredd; codi ymwybyddiaeth o arweiniad a dull gweithredu ‘4 cam athro Ein Llais Ni’.
Datblygu hinsawdd ac amodau effeithiol
Bwriad y cyflwyniad hwn yw rhoi arweiniad ar ddatblygu Hinsawdd ac Amodau effeithiol er mwyn gallu datblygu medrau siarad a gwrando da yn y Gymraeg. Bydd cyfle i edrych ar y Hinsawdd, Amodau, Pwrpas a Myfyrio yn eu tro gan roi cyfleoedd i staff gael trafodaethau ar bob un.
Datblygu technegau myfyrio: Dysgwyr ac Athro
Fel dysgwr ac fel athro mae’n bwysig sicrhau cyfleoedd i asesu drwy fyfyrio, rhoi a derbyn adborth. Mae’r pecyn hwn yn rhoi arweiniad pellach ar ddulliau myfyrio a gwerthuso fel y gellir dyfnhau a chyfoethogi’r cyfleoedd i addysgu a datblygu sgiliau siarad a gwrando dysgwyr.
Mae’n rhannu syniadau ar gyfer datblygu medrau myfyrio’r dysgwyr e.e. drwy gyfeirio at yr adnodd ‘Llafaredd Llwyddiannus’, ac yn hyrwyddo’r defnydd o asesu ffurfiannol er mwyn eu hyfforddi i drafod eu dysgu yn llwyddiannus.
Yn ogystal, mae’n cynnig arweiniad i ymarferwyr adlewyrchu ar y ‘4 cam athro’ er mwyn mireinio a datblygu eu harferion.