CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Map cysyniad

Bydd y dysgwyr yn trefnu eu syniadau yn weladwy gan ddefnyddio’r Map Syniad neu’r Map Stori ac yna’n cyflwyno’r syniad neu’r stori. Gellir gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio’r ‘mapiau’ gweledol hyn i gyflwyno geirfa allweddol neu egluro termau yn ogystal.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae Map Syniad/ Map Stori yn helpu dysgwyr i drefnu eu syniadau yn weladwy a chyflwyno eu gwybodaeth. Gellir gofyn i’r dysgwyr ddefnyddio’r ‘mapiau’ gweledol hyn i gyflwyno geirfa allweddol neu egluro termau. Mae’r geiriau allweddol yn cael eu gosod o fewn bylchau gyda llinellau yn eu cysylltu. Gellir cynnwys geiriau cyswllt ar y llinellau i ddangos cysylltiau y termau gyda’i gilydd.

Mae angen cyflwyno Map Cysyniad mewn 5 cam:

  1. Gosod cwestiwn neu bwnc allweddol
  2. Nodi’r pwyntiau pwysig sy’n ymateb i’r cwestiwn / pwnc
  3. Darganfod cysylltiadau rhwng y ffeithiau / pwyntiau allweddol
  4. Adolygu a gorffen y map
  5. Ymarfer y strategaeth a defnyddio’r Map Cysyniad wrth esbonio eu darganfyddiadau

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Map Cysyniad
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/map-cysyniad

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)