CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Sedd boeth

Bydd y dysgwyr yn chwarae rôl er mwyn gallu siarad o safbwynt y cymeriad.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Drwy gyfrwng drama, bydd dysgwyr yn ymgymryd â rôl cymeriad. Gall hyn fod yn cymeriad hanesyddol, person cyfoes o’r gymuned neu’n gymeriad ffuglennol. Gall fod yn berson sy’n cynrychioli grŵp penodol neu’n ymgymryd â swydd.

Pwrpas sedd boeth yw er mwyn caniatau i’r dysgwr sy’n ymgymryd â’r rôl i feddwl o safbwynt y person dan sylw. Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd angen i’r dysgwyr allu cyfleu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cymeriad. 

Gall y dysgwr ddod at flaen y dosbarth, cyfleu gwybodaeth am ei gymeriad ac yna bydd y gynulleidfa (gweddill y dosbarth) yn gofyn cwestiynau iddo/iddi. Gall hyn ddatblygu yn drafodaeth rhwng y dysgwr mewn cymeriad a gweddill y dosbarth. 

Dewis arall yw i osod y dosbarth mewn grwpiau o bedwar gan roi cymeriad gwahanol i bob grŵp. Bydd yr athro yn cyflwyno datganiad neu gwestiwn i bwrpas cynnal trafodaeth. Yna, bydd y dysgwyr yn trafod hynny o safbwynt cymeriad eu grŵp.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau DatblyguCyfathrebu –  cyflawni arferion cyfarwydd ac ymgymryd â rolau wrth chwarae

Ymgymryd a rôl cymeriad. Gall hyn fod yn gymeriad o hwiangerdd neu yn gymeriad o stori mae’r dysgwyr yn gyfarwydd ag ef.

Pwrpas sedd boeth yw er mwyn caniatau i’r dysgwr sy’n ymgymryd â’r rôl i feddwl o safbwynt y person dan sylw. Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd angen i’r dysgwyr allu cyfleu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cymeriad.

Gall y dysgwr ddod at flaen y dosbarth, cyfleu gwybodaeth am ei gymeriad ac yna bydd y gynulleidfa (gweddill y dosbarth) yn gofyn cwestiynau iddo/iddi. Gall hyn ddatblygu yn drafodaeth rhwng y dysgwr mewn cymeriad a gweddill y dosbarth.Dewis arall yw i wneud hyn o fewn grwpiau llai. 

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)