CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Crynhöwr tawel
Bydd disgybl A a disgybl B yn trafod testun/thema/gosodiad a disgybl C yn aros yn dawel trwy gydol y drafodaeth. Wedi’r drafodaeth, rhaid i ddisgybl C grynhoi’r prif bwyntiau ar lafar o flaen eraill.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Pwrpas y dasg yw pwysleisio pwysigrwydd o wrando’n ofalus ar drafodaethau eraill a rhoi cyfle i ddisgyblion ymarfer sgiliau gwybyddol sef crynhoi.
Bydd y disgyblion yn gweithio mewn grwpiau o 3. Bydd disgybl A a disgybl B yn trafod testun/thema/gosodiad. Disgybl C yw’r CRYNHÖWR TAWEL. Rhaid i’r ‘crynhöwr’ aros yn dawel trwy gydol y drafodaeth. Does dim hawl i’r crynhöwr ysgrifennu nodiadau. Wedi’r drafodaeth, rhaid i ddisgybl C grynhoi prif bwyntiau’r drafodaeth ar lafar o flaen eraill.
Gall yr athro greu banc o frawddegau defnyddiol i’r crynhöwr ddefnyddio wrth adrodd yn ôl.
Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed
Llwybrau Datblygu – ddatblygu fy sgiliau gwrando, talu sylw a deall wrth chwarae a rhyngweithio.
Pwrpas y dasg yw pwysleisio pwysigrwydd o wrando’n ofalus ar drafodaethau eraill a rhoi cyfle i ddisgyblion ymarfer sgiliau gwybyddol sef crynhoi.
Bydd y disgyblion yn gweithio mewn grwpiau o 3. Bydd disgybl A a disgybl B yn trafod llyfr y maent wedi’i fwynhau. Disgybl C yw’r CRYNHÖWR TAWEL. Rhaid i’r ‘crynhöwr’ aros yn dawel trwy gydol y drafodaeth. Does dim hawl i’r crynhöwr ysgrifennu nodiadau. Wedi’r drafodaeth, rhaid i ddisgybl C grynhoi prif bwyntiau o’r stori i’r dysgwyr i ddisgybl A a B.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Crynhowr Tawel
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/crynhowr-tawel
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.