CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Beth yw’r stori?

Bydd y dysgwyr mewn grwpiau yn derbyn cyfres o luniau i’w rhoi yn eu trefn gan ddod i gytundeb ynglŷn â’r drefn honno.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae strategaeth Beth yw’r stori? yn annog disgyblion i drafod cysyniad newydd gan ddefnyddio geirfa pynciol o fewn cyd-destun a rhoi trefn ar ddigwyddiad / broses.

Bydd angen rhannu’r dysgwyr i grwpiau addas (oddeutu 3-6) a chyflwyno cyfres o luniau heb eu trefnu. Caiff y dysgwyr gyfle i drafod a threfnu’r lluniau. Wrth i’r drafodaeth fynd yn ei  blaen, gellir cyflwyno patrymau brawddeg a geirfa allweddol iddynt ddefnyddio. Erbyn diwedd y drafodaeth, dylai’r disgyblion ddod i gytundeb ar y drefn a medru adrodd yn ôl i’r dosbarth.

Mae’r strategaeth y rhoi cyfle i ddisgyblion ddefnyddio gwybodaeth blaenorol i helpu gynnal trafodaeth i drefnu’r lluniau yn ogystal â defnyddio’r patrymau brawddeg a geirfa er mwyn gwella safon y drafodaeth.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Beth yw’r stori?
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/beth-ywr-stori

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)