CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Pa emosiwn?

Bydd yr athro wedi paratoi nifer o ddatganiadau a bydd y dysgwyr yn defnyddio’r llais a’r corff i gyfleu emosiynau gwahanol wrth adrodd y datganiadau.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Gêm hwyliog sy’n cynyddu ein dealltwriaeth o sut rydym yn addasu ein lleisiau a’n cyrff i gyfleu emosiwn neu deimladau wrth siarad.

Bydd angen paratoi datganiadau gall dysgwyr eu mynegi mewn sawl arddull wahanol. Mae’n bosib i’r athro fodelu sut i addasu’r llais a defnyddio’r corff i gyfleu emosiynau yn gyntaf. Pan mae’r disgyblion yn barod, gellir gofyn iddyn nhw greu enghreifftiau eu hunain yn ymateb i ddatganiadau’r athro.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygudefnyddio iaith mewn ffordd chwareus a llawn hwyl.

Mae’r disgrifiad uchod yn addas ar gyfer dysgwyr 3 i 8 oed

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Pa emosiwn?
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/tasgau-5-munud/pa-emosiwn

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)