CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Trafodaeth Harkness
Bydd trafodaeth y grŵp o amgylch bwrdd yn cael ei mapio naill ai gan yr athro neu gan un o’r dysgwyr sydd yn gwrando ar drafodaeth. Bydd ‘map’ y drafodaeth yn dangos pwy sy’n siarad pryd a ‘thaith’ y drafodaeth o amgylch y bwrdd.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Bydd angen i’r dysgwyr eistedd mewn cylch neu mewn mannau cyfartal o gwmpas y ddesg. Bydd pob llais a chyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n gyfartal.
Bydd yr athro’n:
- Cyflwyno deunydd darllen ar destun arbennig i’r dysgwyr o flaen llaw.
- Gofyn i’r dysgwyr i ddarllen crynodeb o’r testun gan gasglu eu hargraffiadau cyntaf.
- Penderfynu ar feini prawf llwyddiant addas a thynnu sylw’r dysgwyr tuag atynt.
- Mapio’r drafodaeth wrth wrando ar y grŵp.
Bydd y dysgwr:
- Nodi enwau’r dysgwyr yn y blychau o gwmpas y cylch.
- Dewis un dysgwr i fapio’r drafodaeth neu gall pob dysgwr wneud hynny yn eu tro.
- Mapio’r drafodaeth a nodi faint o weithiau maent yn cyfrannu tuag at y drafodaeth.
- Nodi rhif y maen prawf llwyddiant wrth ymyl eu henwau os ydynt wedi ei gyflawni.
- Rhoi adborth ar ddiwedd y dasg gan fyfyrio ar eu cyfraniadau a’u trafodaethau.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Trafodaeth Harkness
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/trafodaeth-harkness
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.