CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Fi yw’r arbenigwr!

Bydd grwpiau neu barau yn adrodd yn ôl i weddill y dosbarth wedi iddynt ddeall pwnc neu gysyniad newydd. Byddant yn trafod a chynllunio’r adrodd yn ôl fel ‘arbenigwyr yn y maes’. Mae’r strategaeth hon yn arwain yn naturiol o’r strategaeth ‘Ystyr y gair’.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae’r strategaeth yn atgyfnerthu dealltwriaeth unigolion o gysyniadau newydd.

Bydd dysgwyr yn derbyn pwnc neu destun fel unigolyn / pâr / grŵp ac yn paratoi i adrodd a chyflwyno’r wybodaeth newydd yn ôl i’r dosbarth fel petai nhw yn arbeingwyr yn y maes. Mae gofyn bod y dysgwyr yn trafod a chynllunio sut byddent yn adrodd y wybodaeth fel arbenigwr. Bydd angen iddyn nhw ddefnyddio iaith berthnasol, gan gynnwys y termau arbenigol o’r dasg ‘Ystyr y Gair’.

Bydd angen cefnogi dysgwyr drwy gynnal a sicrhau awyrgylch ddiogel a pharchus wrth iddyn nhw gyflwyno eu gwaith i weddill y dosbarth.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Myfi yw’r Arbenigwr
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/myfi-ywr-arbenigwr

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)

Arferion da: