CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Gornest Focsio
Bydd y dysgwyr yn cynnal dadl gan dderbyn cefnogaeth i ddatblygu eu syniadau gan eu cyd-ddisgyblion.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Bwriad dadleuon gêm focsio yw rhoi cymorth ychwanegol i’r disgyblion hynny sydd ei angen. Dewiswch eich pwnc a rhannwch y grŵp/dosbarth yn gornel las a chornel goch. Dewiswch y disgybl i’w anfon ymlaen i “focsio” ar gyfer pob ochr i’r ddadl.
Dylent gael sesiwn drafod gyflym ar y pwnc dan sylw a phan na fydd syniadau ar ôl, canu’r gloch er mwyn eu galluogi i fynd yn ôl i’w ‘corneli’. Yno, mae eu cyd-ddisgyblion yn gweithredu fel hyfforddwyr, gan roi syniadau iddynt am beth i’w ddweud ar gyfer y rownd nesaf. Gallech hefyd anfon disgybl gwahanol allan sydd wedi cael ei baratoi gan yr “hyfforddwyr”.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Boxing match debates – Noisy Classroom
https://noisyclassroom.com/speaking-and-listening-formats/boxing-match-debates/
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.