CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: A fyddai’n well gyda chi?

Bydd yr athro yn paratoi sleid neu boster sy’n cynnwys gwahanol osodiadau e.e. ‘A fyddai’n well gyda chi . . .? – A fyddai’n well gyda chi fod yn dlawd ac yn hapus neu’n gyfoethog a thrist? Bydd y dysgwyr yn trafod eu dewis gan roi rhesymau.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Dyma strategaeth hwyliog sy’n rhoi dewisiadau i ddisgyblion a’r cyfle i fynegi barn a chyfiawnhau atebion.

Dylid paratoi gosodiadau yn defnyddio’r frawddeg ‘A fyddai well gyda chi…… neu ……?’ Mae modd gwneud hyn ar lefel syml yn gyntaf drwy gael y dysgwyr i ddewis y naill beth neu’r llall yn unig. Yna, adeiladu ar yr ymatebion drwy gael y dysgwyr i ychwanegu rhesymau i gyfiawnhau atebion.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – A fyddai’n well gyda chi?
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/a-fyddain-well-gyda-chi?pli=1

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)