CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Meddwl-paru-rhannu

Dull yn caniatáu dysgwyr i fod yn meddwl a siarad am destun mewn tri rhan – meddwl, paru a rhannu. Mae pob cam yn adeiladu ar y cam blaenorol.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Dull yn caniatáu dysgwyr i fod yn meddwl a siarad am destun mewn tri rhan – meddwl, paru a rhannu. Mae pob cam yn adeiladu ar y cam blaenorol.

Mae cwestiwn neu ddatganiad yn cael ei osod i’r dysgwyr. Rhoddir amser i ddysgwyr feddwl yn unigol gan wneud nodiadau i’w helpu. Yna rhoddir amser i drafod eu syniadau gyda phartner. Yn olaf, mae’r pâr yn rhannu eu syniadau â grŵp mwy neu weddill y dosbarth.  Mae hyn yn helpu i ymestyn amser meddwl ac yn cynnig modd i ddysgwyr ddatblygu atebion mwy soffistigedig nag y gallen nhw ei wneud mewn sesiwn holi arferol.  Mae hefyd yn cefnogi dysgwyr amharod/dysgwyr sydd â hunanhyder isel a’u cael i gyfrannu.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)