CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Dadl Dawel

Rhoddir gosodiadau ar ddarnau mawr o bapur a bydd y dysgwyr yn symud o amgylch y dosbarth (yn dawel) gan ychwanegu eu barn trwy ysgrifennu gosodiadau ar y gwahanol ddarnau o bapur. Wedi i bob dysgwyr ysgrifennu sylw neu farn ar bob darn o bapur bydd grwpiau’n trafod y gosodiadau sydd wedi’u nodi ar bob darn mawr o bapur.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Dyma drafodaeth di-eiriau, dosbarth-cyfan. Gellir ychwanegu elfen lafar ar ddiwedd y weithgaredd os ydy’r athro’n dymuno.

Mae angen i’r athro baratoi 4 neu 5 darn mawr o bapur o flaen llaw (yn ddibynnol ar nifer y disgyblion sydd yn y dosbarth) Ar ganol pob darn o bapur, dylid rhoi cwestiwn neu ddatganiad sy’n berthnasol i’r thema neu’r pwnc dan sylw.

Dylid gosod rheolau’r dasg ar gychwyn y weithgaredd. Y rheolau ydy;

  • Dim siarad
  • Ysgrifennu eu cyfraniadau ar y papurau
  • Bydd disgyblion sydd yn cael eu dal yn siarad yn cael eu tynnu allan o’r weithgaredd am 30 eiliad.

Bydd y papurau wedi eu gosod o amgylch yr ystafell ac mae angen i’r disgyblion fynd o amgylch y dosbarth yn ymateb i’r gosodiadau yn ysgrifenedig ar y papurau mawr. Unwaith bydd y disgyblion wedi cael cyfle i ymateb i bob safbwynt, mae angen mynd o amgylch yr ystafell am yr eildro yn darllen ymatebion eraill. Wrth ddarllen y sylwadau, mae angen ymateb iddyn nhw. Y ffordd i wneud hyn ydy cylchu yr ymateb, tynnu llinell oddi wrtho, ac ymateb ar ddiwedd y llinell. Rhaid cylchu eu hymateb hefyd. Ar y diwedd, bydd y papur yn llawn o safbwyntiau wedi cael eu cyfnewid.

Gellir ymestyn y dasg ar y diwedd i gynnwys ymatebion llafar i’r pwyntiau drafodwyd.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)