CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Bob amser, weithiau, byth

Gofyn i’r dysgwr ddewis cerdyn ‘Bob amser’, ‘Weithiau’ neu ‘Byth’ i gyd fynd â gosodiadau. Bydd gofyn i’r dysgwr gyfiawnhau dewis y cerdyn i gyd-fynd â’r gosodiad.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Nôd y strategaeth yw cyflwyno datganiad i ddysgwyr a gofyn a ydyn nhw’n meddwl bod hyn yn wir pob amser, weithiau neu fyth. Mae’r dull yma yn fodd effeithiol o annog trafodaethau yn enwedig wrth ymdrin a rhesymu gan ei fod yn annog disgyblion i chwilio am dystiolaeth i gyfiawnhau a chefnogi eu syniadau. 

Bydd angen i’r athro baratoi set o osodiadau i ymateb iddyn nhw yn ogystal â banc o eirfa mynegi barn a thrafod.  Bydd y dysgwyr yn ymateb i’r gosodiadau gan ddwyn i gof unrhyw ddysgu blaenorol am gysyniad/pwnc/thema. Bydd disgwyl i’r disgyblion ymchwilio a chanfod tystiolaeth i gefnogi a chyfiawnhau eu barn. Gellir annog y dysgwyr i adeiladu ar, herio, crynhoi, egluro a phrocio syniadau ei gilydd.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Bob amser, Weithiau, Byth
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/bob-amser-weithiau-byth

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)

Arferion da: