CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Grwpiau Jigsô

Gweithgaredd sy’n annog gwaith tîm ac yn hybu gweithio gyda amrywiaeth o ddysgwyr.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Gweithgaredd sy’n annog gwaith tîm ac yn hybu gweithio gyda amrywiaeth o ddysgwyr. 

I ddechrau, rhannwch y dosbarth i grwpiau o bedwar. Rhannu cyfres o bwyntiau trafod/gwestiynau sydd a chyswllt efo’r testun dan sylw.

Bydd pob grŵp yn edrych drwy’r rhestr ac yn trafod yr hyn sydd yno yn fras. Yna, penderfynu pwy sy’n mynd i fod yn gyfrifol am bob pwynt – bydd hyn yn dasg neu’n gwestiwn ar gyfer pob dysgwr. 

Ar ddiwedd cyfnod penodol, mae’r athro yn ail-drefnu’r grwpiau ac yn gosod y dysgwyr sydd wedi trafod testun penodol gyda’i gilydd (os ydy’r grwpiau yn mynd yn rhy fawr, rhannwch nhw yn ddau grŵp). Mae 10 -15 munud pellach i drafod y pwynt trafod er mwyn dod i gasgliad.

Yn olaf, mae’r dysgwyr yn dychwelyd i’r grwpiau gwreiddiol sy’n cynnwys ‘arbenigwyr’ fydd yn gallu esbonio eu canfyddiadau neu ganlyniadau mewn manylder er mwyn caniatáu trafodaeth ddyfnach sy’n tynnu ar syniadau’r grwpiau eraill.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)