ARWAIN EIN LLAIS NI

GWERTHUSO A GWREIDDIO

Mesur a gweld effaith

Yn ystod cyfnod o ddatblygu a dyfnhau, a yw’r pwyntiau isod yn amlygu’r gweithredu ddigwyddodd a pha mor lwyddiannus oedd hynny?

  • Ydy’r arweinydd/ysgol wedi cynnal trafodaethau staff rheolaidd i sicrhau dealltwriaeth, myfyrio ar gynnydd a materion datblygol yn ogystal a chynnal momentwm da i’r gweithredu?
h

Adnodd hunanwerthuso llafaredd

h

Adnodd hunanwerthuso dysgu ac addysgu

  • A drefnwyd cyfleoedd i staff gydweithio a rhannu eu canfyddiadau e.e. parau/triawdau dysgu o fewn a/neu ar draws ysgolion?
  • Oes cyfleoedd wedi bod i rannu arferion da? (gall y defnydd o dechnoleg ddigidol gyfoethogi’r casglu/dal arferion da).
  • A gafwyd deialog rheolaidd gydag aelod cyswllt UDRh i sicrhau rhannu gwybodaeth a llinellau cyfathrebu clir? A rannwyd y canfyddiadau a’r cynnydd gyda YCG cyswllt yr ysgol?
  • A lwyddodd yr arweinydd/ysgol i lynu at y camau gweithredu a’r cerrig milltir gan gasglu gwybodaeth ar hyd y daith i werthuso’r dysgu a’r addysgu? e.e. holiaduron gwaelodlin ar ddechrau a diwedd y cyfnod gweithredu, trafodaethau staff, cynlluniau staff, arsylwadau gwersi, teithiau dysgu, cyfweliadau gyda dysgwyr a staff.
h

Datblygu a mesur effaith (PDF)

h

Datblygu a mesur effaith (Word)

  • Oes cynnydd amlwg i’w weld rhwng y gwaelodlin a diwedd y cyfnod gweithredu? (cynnydd mewn dysgu a/neu addysgu)
  • Oes tystiolaeth hylaw wedi ei gasglu sy’n amlygu’r uchod? e.e. adroddiadau monitro arfarnol, dadansoddiadau holiaduron, cofnodion cyfarfodydd, enghreifftiau digidol o waith a/neu sgyrsiau efo dysgwyr, cynlluniau enghreifftiol
h

Adnodd hunanwerthuso dysgu ac addysgu

  • Os oes cwestiwn ymholi wedi ei lunio, a yw arweinydd y maes wedi cyflwyno astudiaeth achos o’r gwaith a’i effaith ar yr addysgu a’r dysgu i’w rannu yn ehangach?
h

Astudiaeth Achos Llanllechid

  • Ar ddiwedd cyfnod o weithredu, a yw’r arweinydd/ysgol yn glir o ran y cryfderau a’r materion i’w datblygu.
  • A yw’r camau nesaf yn glir?

Rhoi ar waith

Pa fath o weithredu sydd angen digwydd wrth ddechrau ar y gwaith?

Beth sydd angen ei ddarganfod a’i ddeall?

Dyfnhau

Wrth i’r gwaith ddatblygu, beth sydd yno i gefnogi cynnydd pellach?

Beth ellir ei wneud i ledaenu’r gwaith ar draws yr ysgol?

Gwerthuso a Gwreiddio

Sut mae sicrhau fod y newid yn un hir-dymor ac wedi’w ledaenu ar draws yr ysgol a chwricwlwm yr ysgol?