CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Tenis cwestiynau

Mewn parau, bydd y disgyblion yn ymateb i lun llonydd maen nhw’n ei weld am y tro cyntaf, trwy ofyn cyfres o gwestiynau fesul un.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Tasg fer fel sbardun i destun newydd. Cyfle i annog siarad ac i ennyn diddordeb disgyblion ar ddechrau gwers.

Bydd llun yn cael ei osod ar y bwrdd gwyn. Gyda phartner, bydd y disgyblion yn cymryd tro i ofyn cwestiwn sy’n codi wrth iddyn nhw edrych ar y llun. Bydd disgwyl i’r disgyblion holi cwestiynau treiddgar wrth i’r sgwrs ddatblygu. Gellir darganfod atebion i’w cwestiynau ar ddiwedd y wers neu uned o waith.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygu cyflawni arferion cyfarwydd ac ymgymryd â rolau wrth chwarae. 

Tasg fer fel sbardun i destun newydd. Cyfle i annog siarad ac i ennyn diddordeb disgyblion ar ddechrau gwers.

Bydd llun/ gwrthrych yn cael ei arddangos i’r dysgwyr. Gyda phartner, bydd y disgyblion yn cymryd tro i ofyn cwestiwn sy’n codi wrth iddyn nhw edrych ar y llun. Gallent dynnu llun o’r gwrthrych yn defnyddio ap megis Bookcreator a thrafod ac ysgrifennu’r cwestiynau o amgylch y llun.  Ar ôl darganfod yr atebion drwy ymchwil gallent ddefnyddio’r ap ‘Chatterpix’ i ddisgrifio’r gwrthrych o safbwynt y gwrthrych e.e. ______ ydw i. Rwyf yn _____ a.y.b.

Mae posib hefyd cynnwys y weithgaredd yma yng nghaffi’r dosbarth a rhoi testun ar y fwydlen iddynt drafod yn ystod amser ffrwyth/ llefrith. 

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Tenis cwestiynau
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/tenis-cwestiynau

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)