CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Rolau trafod

Rolau: holwr / chwilotwr / heriwr / datblygwr syniadau / symbylwr / cadeirydd / crynhöwr.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Os yw dysgwyr yn trafod mewn grwpiau, gall fod yn fuddiol rhoi rôl iddynt. Mae hyn yn arbennig o wir os yw dysgwyr yn cael trafferth trafod yn effeithiol. Drwy ddynodi rolau mewn grŵp, mae hyn yn rhoi mwy o strwythur ac yn rhoi ymdeimlad cryfach o bwrpas i ddysgwyr – weithiau mae angen hyn os yw dysgwyr yn ei chael hi’n anodd rhoi hyn i’w hunain. 

Bydd gan bob dysgwr ym mhob grŵp rôl benodol y mae disgwyl iddynt ei chwarae, yn rhan o’u rôl ehangach yn y drafodaeth. Mae hyn yn rhoi rhywbeth i’r dysgwyr ganolbwyntio arno a rhoi ymdeimlad cliriach iddynt o’r hyn sydd angen iddynt ei wneud i lwyddo.

Dyma rai enghreifftiau o rolau posib: holwr/ chwilotwr, heriwr, datblygwr syniadau, symbylwr a chadeirydd, crynhöwr, cwestiynwr, ysgrifennydd, amserydd.

Dylid sicrau fod pob disgybl yn deall y rolau a’u cyfrifoldebau o fewn y rôl cyn cychwyn ar y dasg. Gellir paratoi cardiau gyda meini prawf y rôl arnyn nhw o flaen llaw neu fel dosbarth.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygu cyflawni arferion cyfarwydd ac ymgymryd â rolau wrth chwarae.

Gyda ‘Lego Kit’ (wedi’i ddylunio gan ddysgwyr 8-11 ar gyfer 3 i 8 oed), bydd grŵp o dri yn mynd ati i adeiladu gyda’r Lego a dilyn cyfarwyddiadau un unol â’u rolau.  Bydd gan bob dysgwr rôl benodol e.e:

Peirianydd:

  • Dweud wrth y cyflenwr pa ddarnau sydd angen
  • Dweud wrth yr adeiladwr sut i roi’r darnau at ei gilydd

Cyflenwr:

  • Trefnu’r darnau
  • Gwrando ar gyfarwyddiadau gan y peirianydd
  • Pasio’r brics i’r adeiladwr

Adeiladwr:

  • Derbyn darnau gan y cyflenwr
  • Gwrando ar gyfarwyddiadau gan y peirianydd
  • Rhoi’r darnau at ei gilydd

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Rolau trafod
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/rolau-trafod

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)