CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Ditectif siarad

Bydd yr athro yn dewis meini prawf llafaredd addas ac yn paratoi taflenni arsylwi ar gyfer y ditectifs. Bydd pob dysgwr yn y grŵp yn ‘dditectif’ sydd yn sylwi ar faen prawf penodol yn ystod y drafodaeth neu fe fyddant i gyd yn llenwi’r daflen yn ystod y drafodaeth.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae strategaeth Ditectif Siarad yn ddull diddorol o asesu cyfoedion a gwerthuso gwaith trafod neu berfformiadau. Mae hi hefyd yn atgyfnerthu dealltwriaeth dysgwyr o drafodaeth effeithiol.

Bydd yr athro yn penderfynu ar feini prawf llafar addas (o’r fframwaith llafaredd) ac yn paratoi taflenni arsylwi ar gyfer y ditectifs. Bydd pob aelod o’r grŵp yn canolbwyntio ar faen prawf llafar penodol neu mae’n bosib i rai grwpiau o ddysgwyr sylwi ar yr holl feini prawf. Y ditectifs sydd yn arsylwi eraill yn siarad a byddan nhw’n llenwi’r daflen arsylwi, yn cofnodi’r hyn maent yn eu clywed. Bydd disgwyl i’r ditectifs rannu adborth gyda’r grŵp/dosbarth ar ddiwedd y dasg. Rhaid i arsylwadau a sylwadau fod yn gadarnhaol ac adeiladol. 

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Ditectif Siarad
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/ditectif-siarad

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)