CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Triawd Gwrando

Gweithgaredd strwythuredig sy’n rhoi sylw blaenllaw i ddatblygu sgiliau gwrando gyda’r dysgwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â sawl rôl. Mae cyfle i’r dysgwyr feddwl, siarad, gwrando, cwestiynu ac adlewyrchu ar y testun/pwnc dan sylw.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Rhannwch y dosbarth yn grwpiau o dri. 

Dylai pob grŵp lunio’r rheolau hyn:

Siaradwr: Yr unigolyn hwn fydd yn cyfrannu fwyaf at y drafodaeth. Ei dasg o ydi siarad yn estynedig am y testun.

Cwestiynwr: Bydd y cwestiynwr yn cyfrannu rhywfaint at y drafodaeth; ond ei brif rôl fydd holi cwestiynau i grisialu a phrocio’r siaradwr.

Gwrandäwr: Mae’r rôl hon yn gofyn i’r dysgwr wrando’n ofalus ar y drafodaeth a chofnodi’r pwyntiau allweddol.

 

Unwaith y bydd y rolau wedi’u rhannu, bydd yr athro yn cyhoeddi’r cwestiwn trafod cyntaf. Bydd sgyrsiau yn dilyn, efo aelodau’r grŵp yn cymryd eu rôl. Dylai’r cwestiynwr ofyn y cwestiwn i’r siaradwr, sy’n gorfod amlinellu ei feddwl. Yna dylai’r cwestiynwr ofyn cwestiynau dilynol a gwneud ei gyfraniadau ei hun, tra bydd y gwrandäwr yn gwrando ac yn gwneud nodiadau.

Unwaith bydd y drafodaeth wedi gorffen, dylai’r gwrandäwr adrodd yn ôl i aelodau eraill y grŵp. Dylai fynd dros yr hyn a drafodwyd yn y drafodaeth ac asesu’r siaradwr a’r cwestiynwr, gan ganolbwyntio ar beth wnaethon nhw’n dda a beth allen nhw wella. Wedi hyn, bydd yr athro yn cyhoeddi y dylai aelodau’r grŵp newid rôl.

Mae cwestiwn trafod newydd yn cael ei gyflwyno, a’r sgwrsio yn ailgychwyn. Bydd y broses yn cael ei hailadrodd dair gwaith, i sicrhau bod pob aelod o’r grŵp wedi cael cyfle i wneud pob rôl. Siaradwr, Cwestiynwr, Gwrandäwr.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygucyflawni arferion cyfarwydd ac ymgymryd â rolau wrth chwarae

Mewn grwpiau o dri.

Siaradwr: Yr unigolyn hwn fydd yn cyfrannu fwyaf at y drafodaeth.

Cwestiynwr: Bydd y cwestiynwr yn cyfrannu rhywfaint at y drafodaeth; ond ei brif rôl fydd holi cwestiynau i grisialu a phrocio’r siaradwr.

Gwrandäwr: Mae’r rôl hon yn gofyn i’r dysgwr wrando’n ofalus ar y drafodaeth a chofnodi’r
pwyntiau allweddol.

Unwaith y bydd y rolau wedi’u rhannu, bydd yr athro yn cyhoeddi’r cwestiwn trafod cyntaf. Bydd sgyrsiau yn dilyn, efo aelodau’r grŵp yn cymryd eu rôl. Dylai’r cwestiynwr ofyn y cwestiwn i’r siaradwr. Yna dylai’r cwestiynwr ofyn cwestiynau dilynol a gwneud ei gyfraniadau ei hun, tra bydd y gwrandäwr yn gwrando ac yn gwneud nodiadau.

Mae cwestiwn trafod newydd yn cael ei gyflwyno, a’r sgwrsio yn ailgychwyn. Bydd y broses yn cael ei hailadrodd tair gwaith, i sicrhau bod pob aelod o’r grŵp wedi cael cyfle i wneud pob rôl. Siaradwr, Cwestiynwr, Gwrandäwr.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)