ARWAIN
EIN LLAIS NI

Camau ymarferol i arweinydd

Nod ‘Ein Llais Ni’ yw datblygu addysgeg ymarferwyr drwy ystyried strategaethau dysgu ac addysgu llafaredd rhyngwladol. Drwy ddatblygu a mireinio’r dull o addysgu medrau siarad a gwrando, mae’n arwain at eu gosod fel sylfaen i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu.

Mae’r adran yma yn eich arwain drwy broses er mwyn datblygu, dyfnhau a gwreiddio addysgeg llafaredd drwy’r ysgol ac ar draws y cwricwlwm.

Er mwyn arwain rhaglen ‘Ein Llais Ni’ yn effeithiol drwy’r ysgol bydd angen adnabyddiaeth dda o‘r 7 elfen uchod. Mae’r adnodd/canllaw yma yn cynnig trosolwg a chamau gweithredu enghreifftiol. Bydd y canllaw manwl yn eich tywys drwy weithredu posib fesul elfen. Yn dilyn hunanwerthusiad o sefyllfa unigryw eich ysgol chi gallwch droi at y camau gweithredu fydd yn eich cefnogi i lunio blaenoriaeth er mwyn gyrru newidiadau.

Ni allwch ymdrin â’r holl elfennau ar unwaith neu gyda’i gilydd ond fe welwch fod ambell un yn cysylltu’n gryf ag elfen arall a’r naill yn dylanwadu ar y llall

h

Trosolwg o 7 agwedd Ein Llais Ni

h

Adnodd Hunanwerthuso

h

Camau Gweithredu Enghreifftiol

Rhoi ar waith

Pa fath o weithredu sydd angen digwydd wrth ddechrau ar y gwaith?

Beth sydd angen ei ddarganfod a’i ddeall?

Dyfnhau

Wrth i’r gwaith ddatblygu, beth sydd yno i gefnogi cynnydd pellach?

Beth ellir ei wneud i ledaenu’r gwaith ar draws yr ysgol?

Gwerthuso a Gwreiddio

Sut mae sicrhau fod y newid yn un hir-dymor ac wedi’w ledaenu ar draws yr ysgol a chwricwlwm yr ysgol?

Mae’r adnodd isod yn drosolwg o’r hyn a gyflwynir drwy’r 3 adran uchod

h

Trosolwg Arwain