CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Gwrando mawr / bach

Mewn triawd, bydd dysgwr A yn siarad am 3 munud ar destun penodol a dysgwr B yw’r gwrandäwr mawr (sy’n sylwi ar iaith y corff, cyswllt llygad ayyb) Dysgwr C yw’r gwrandäwr bach (sy’n canolbwyntio ar fanylion e.e. dyddiadau, ffeithiau, ystadegau ayyb)

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae’r strategaeth Gwrando mawr / bach yn caniatau i ddisgyblion ymarfer sgiliau gwrando yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth ar lafar.

Bydd angen rhannu’r disgyblion yn grwpiau o 3 a rhoi rôl benodol i bawb o fewn y grŵp:

Dysgwr A – bydd dysgwr A yn siarad am 3 munud ar destun penodol

Dysgwr B – dysgwr B yw’r gwrandäwr mawr sy’n sylwi ar iaith y corff, cyswllt llygad, tôn y llais, mynegiant wyneb ayyb. Y gofynion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn y fframwaith Llafaredd.

Dysgwr C – dysgwr C yw’r gwrandäwr bach sy’n canolbwyntio ar fanylion y cyflwyniad e.e. dyddiadau, ffeithiau, ystadegau ayyb. Y gofynion ieithyddol a gwybyddol yn y fframwaith Llafaredd.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Gwrando mawr / bach
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/gwrando-mawr-bach

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)