CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Caseg Eira

Bydd y dysgwyr yn ystyried gosodiad yn unigol a ffurfio barn, yna’n symud at bartner i drafod ymhellach cyn symud wedyn at bâr arall eto i drafod pwyntiau a datblygu’r ddadl ymhellach. Gall ‘caseg eira’ y drafodaeth symud at fwy o grwpiau hyd nes bod y dosbarth i gyd wedi cyfrannu at y gosodiad gwreiddiol.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Dychmygwch belen o eira yn teithio i lawr mynydd o eira. Mae hi’n casglu mwy o eira wrth deithio ac yn tyfu. Dyma ddull tebyg o gasglu ffeithiau a syniadau ar lawr dosbarth.

Mae cwestiwn neu ddatganiad yn cael ei osod i’r dysgwyr. Rhoddir amser i ddysgwyr feddwl yn unigol gan wneud nodiadau i’w helpu. Yna rhoddir amser i drafod eu syniadau gyda phartner. Dylid ymestyn y partneriaid i grwpiau o 4 a rhoi mwy o amser iddyn nhw drafod a rhannu syniadau. Yn olaf, mae’r holl grwpiau yn cael cyfle i readru eu gwybodaeth i weddill y dosbarth. Gellid trafod ymhellach ar y pwynt yma neu rannu gwybodaeth yn unig.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)