CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Pe bawn i’n rheoli’r byd…

Bydd dysgwr A yn cyflwyno’r datganiad “Pe bawn i’n rheoli’r byd…” neu “Pe bawn i’n Brif Weinidog Cymru…” ac yna bydd dysgwr B yn anghytuno â’r datganiad gan roi rheswm

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae’r strategaeth hon yn annog disgyblion i feddwl am ddwy ochr i ddadl.

Bydd disgyblion yn gweithio gyda phartner. Bydd partner A yn dechrau gan ddatgan “Pe bawn i’n rheoli’r byd….” a rhoi datganiad ar ddiwedd y frawddeg. Mae angen i bartner B wrando ar ddatganiad y partner ac ymateb iddo gan anghytuno a chynnig eglurhad / rheswm.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygudefnyddio iaith mewn ffordd chwareus a llawn hwyl.

Mae’r disgrifiad uchod yn addas ar gyfer dysgwyr 3 i 8 oed

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Petawn i’n rheoli’r byd…
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/tasgau-5-munud/petawn-in-rheolir-byd

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)