CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Trafodaeth Rydd

Gweithgaredd llai strwythuredig er mwyn hybu trafodaeth dan arweiniad y dysgwyr.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae’r math yma o drafodaeth yn cael ei arwain gan y dysgwyr yn bennaf ac nid oes strwythur pendant iddo. Mae cyfeiriad y sgwrs yn datblygu yn naturiol.

Gall trafodaeth rydd ddechrau mewn dwy ffordd. Gall yr athro gyflwyno testun trafod i’r dosbarth neu gall yr athro ofyn wrth y dysgwyr ddewis testun o blith amryw i’w drafod. Os yn dewis yr ail ddull, gall y dysgwyr gynnal pleidlais i benderfynu ar ei testun trafod.

Mae’r athro yn hwyluso’r drafodaeth ond y dysgwyr sy’n ei lywio ac yn dewis sut i gynnal y drafodaeth. Yn dilyn y drafodaeth, dylid cynnal sesiwn fyfyrio er mwyn gallu adnabod beth weithiodd yn dda a beth ddylid ei fireinio a’i wella. Me trafodaeth rydd yn gweithio’n dda pan fo’r testun dan sylw yn gynhennus, yn benagored ac yn arwain at yr angen i ffurfio barn. O ganlyniad, bydd y dysgwyr yn gallu siarad yn fwy helaeth am y testun heb ormod o gynhaliaeth neu strwythur.

Wrth fyfyrio gellid gofyn y cwestiynau yma:

  • Beth ddysgwyd o’r drafodaeth?
  • Beth oedd ansawdd cyfraniadau i’r drafodaeth?
  • Oedd y sgwrs wedi arwain at drafod y testun mewn manylder?
  • Sut allwn ni wella’r drafodaeth tro nesaf?
  • Ydy’n dealltwriaeth o’r testun dan sylw wedi gwella o ganlyniad i’r drafodaeth?

Yn ogystal, gellid dynodi rôl i rai dysgwyr er mwyn hwyluso’r drafodaeth e.e. Amserydd, cwestiynwr, cofnodwr, arweinydd a chrynhowr.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygumynegi fy anghenion, fy meddyliau, fy nheimladau, fy syniadau a fy marn, talu sylw i bobl eraill.

Mae’r math yma o drafodaeth yn cael ei arwain gan y dysgwyr yn bennaf ac nid oes strwythur pendant iddo. Mae cyfeiriad y sgwrs yn datblygu yn naturiol.

 Gall trafodaeth rydd ddechrau mewn dwy ffordd. Gall yr athro gyflwyno testun trafod i’r dosbarth neu gall yr athro ofyn wrth y dysgwyr ddewis testun o blith amryw i’w drafod. Os yn dewis yr ail ddull, gall y dysgwyr gynnal pleidlais i benderfynu ar eu testun trafod.

 Mae’r athro yn hwyluso’r drafodaeth ond y dysgwyr sy’n ei lywio ac yn dewis sut i gynnal y drafodaeth.

Ffilmio’r drafodaeth – mae posib rhoi’r cyfrifoldeb yma i un o’r dysgwyr fel ei fod yn digwydd yn fwy naturiol. Chwarae’r clip yn ôl a gofyn i’r dysgwyr fyfyrio ar y drafodaeth. Sut allwn ni wella’r drafodaeth tro nesaf? Oes posib clywed pawb yn trafod yn glir? Oes ‘na fylchau lle nad oes neb yn siarad?

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)