CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Pawb a’i farn

Bydd y dysgwyr yn gallu cynnal trafodaethau manwl mewn grwpiau er mwyn gwyntyllu amrywiol safbwyntiau.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Bydd y dysgwyr yn gallu cynnal trafodaethau manwl mewn grwpiau er mwyn gwyntyllu amrywiol safbwyntiau. 

I ddechrau, rhannwch y dosbarth i grwpiau o bedwar neu bump a chyflwyno cwestiwn i’w drafod. Cyflwynwch safbwynt sy’n cynnig ymateb i’r cwestiwn ac esboniwch fod ganddynt 10 munud i ddatblygu ymateb manwl ar gyfer y safbwynt yma. Yna, bydd pob grŵp yn enwebu aelod i’w cynrychioli ar banel o flaen y dosbarth. Bydd pob aelod o’r panel yn cyflwyno eu dadl/safbwynt. 

Yn ystod y cyfnod paratoi bydd angen datblygu ystod y ddadleuon a phwyntiau sy’n cynrychioli’u safbwynt. Dylent gynnwys cymaint o dystiolaeth ac enghreifftiau a phosib er mwyn cefnogi eu hachos. Hefyd, dylent lunio cyfres o gwestiynau er mwyn rhoi’r cyfle i ddatblygu’r drafodaeth ymhellach.

Ar ddiwedd y cyfnod paratoi, bydd y panel yn cael ei ffurfio ac yn ymuno efo’r athro sy’n ymgymryd â rôl y cadeirydd. Mae’r athro yn cyflwyno’r testun i’w drafod. 

Wrth i’r drafodaeth ddatblygu, bydd yr athro yn dechrau derbyn cwestiynau gan aelodau o’r gynulleidfa (gweddill y dosbarth). Bydd hyn yn gyfle i ysgogi a dyfhnau’r drafodaeth ymhellach.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)