CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Triawd holi

Bydd dysgwr A a dysgwr B yn trafod neu ddadansoddi ac yna dysgwr C yn eu holi gan lywio’r drafodaeth (dim ond dysgwr C fydd yn holi cwestiynau)

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Cyfle i ymarfer sgiliau gwybyddol crynhoi. Mae’r strategaeth yn pwysleisio pwysigrwydd o wrando’n ofalus ar drafodaethau eraill er mwyn gofyn cwesitynau pwrpasol a threiddgar.

Bydd angen i’r disgyblion weithio mewn grwpiau o 3. Bydd disgybl A a B yn trafod pwnc penodol. Disgybl C yw’r holwr. Dim ond Disgybl C sy’n cael gofyn cwestiynau. Mae disgwyl i ddisgybl C holi cwestiynau treiddgar i annog ymatebion manwl neu i symud y drafodaeth ymlaen.

Gall yr athro baratoi a darparu taflen gydag esiamplau o frawddegau agoriadol a chwestiynau ar gyfer y siaradwyr.

diagram triawd holi

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Triawd Holi
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/triawd-holi

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)