CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Bwydo ffeithiau

Wrth i’r dysgwyr drafod pwnc neu sbardun mewn grŵp bydd yr athro yn bwydo un ffaith / cysyniad / barn i un dysgwr i’w ddarllen i’r grŵp. Gall yr athro fwydo mwy a mwy o ffeithiau / cysyniadau / barn er mwyn llywio neu gyfoethogi’r drafodaeth.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae strategaeth Bwydo Ffeithiau yn dilyn yr un egwyddorion a’r strategaeth Caseg Eira ond yn wahanol i Gaseg Eira, yr athro sy’n bwydo’r ffeithiau i’r disgyblion.

Mae angen rhannu’r disgyblion yn grwpiau a gosod pwnc / thema / gosodiad benodol iddyn nhw drafod. Wrth i’r drafodaeth fynd rhagddi, mae’r athro’n bwydo ffaith ychwanegol i un disgybl er mwyn symud y drafodaeth yn ei blaen. Gallwch fwydo cymaint o ffeithiau i lywio a chyfoethogi’r drafodaeth. Mae posib creu pecyn o’r gosodiadau o flaen llaw a’r disgyblion yn symud y sgwrs ymlaen gan ddewis un cerdyn o’r pecyn ar y tro.

Mae’r strategaeth yn ddull o sicrhau nad yw trafodaeth yn cylchdroi yn ei hunfan a bod pwyntiau newydd yn cael eu hychwanegu yn gyson.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Bwydo Ffeithiau
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/bwydo-ffeithiau

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)