CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Grwpiau’r Enfys

Bydd dysgwyr yn trafod testun mewn un grŵp yna yn ail-ffurfio er mwyn rhannu eu trafodaethau yn ehangach.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae dwy drafodaeth yn y strategaeth yma. Yn y cyntaf, ceir cyfres o grwpiau yn trafod testunau amrywiol. Yn yr ail, mae aelodau’r grwpiau yma yn ail-drefnu i grwpiau newydd er mwyn rhannu eu canfyddiadau o’r trafodaethau cychwynnol. 

Enghraifft o’r drefn:

Dechrau drwy rannu’r dosbarth i grwpiau o pump. Rhowch destun neu gwestiwn i’w drafod. Gall hyn gael ei atgyfnerthu gan adnoddau/mannau cyfeirio i’w hymchwilio fel sail i’w trafodaethau. Bydd hyn yn cymryd tua 10-15 munud. O bosib, bydd angen darparu strwythur neu gyfeiriad i gynorthwyo’r dysgwyr e.e. cyfres o gwestiynau neu fat trafod.

Nesaf, dynodir lliw ar gyfer pob aelod o’r grŵp (5 aelod yn derbyn lliw gwahanol yr un). Bydd y grŵp yn chwalu ac yn ail-ffurfio i grwpiau newydd yn ôl lliw e.e. bydd pob dysgwr sydd wedi ei ddynodi yn ‘goch’ yn ffurfio grŵp newydd, yn yr un modd pob dysgwr sydd wedi ei ddynodi yn ‘wyrdd’.

Bydd pob aelod yn y grŵp newydd (o ran lliw) yn cymryd eu tro i drosglwyddo’r hyn drafodwyd yn y grŵp gwreiddiol ac fe fydd trafodaeth yn dilyn pob un. Yna, bydd y grŵp yn adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi ei rannu ac yn chwilio am gysylltiadau a gwahaniaethau rhwng y syniadau a’r dadleuon sydd wedi eu rhannu.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)