CYNLLUNIO PROFIADAU CYFOETHOG

YSTYRIAETHAU AR GYFER CYNLLUNIO

Ein Llais Ni yn y Dosbarth

Bydd pob ymarferydd yn cyfrannu tuag at roi gweledigaeth yr ysgol ar gyfer llafaredd y Gymraeg ar waith drwy roi lle blaenllaw i ddatblygu’r iaith ar draws y cwricwlwm. Mae’r graffeg isod yn cynnig trosolwg o’r hyn sydd angen bod yn weithredol ymhob dosbarth i wireddu hynny. Wrth sefydlu amgylchedd gadarnhaol, cynllunio pwrpasol, rhoi strategaethau ar waith a myfyrio ar gynnydd, bydd yn cyfrannu yn sylweddol at osod disgwyliadau uchel ar gyfer llafaredd y Gymraeg.  

h

Ein Llais Ni yn y dosbarth

Cynllunio ar gyfer datblygu sgiliau siarad a gwrando

Mewn amgylchedd lle mae llafaredd yn cael lle canolog a chadarnhaol, mae’r broses o gynllunio profiadau siarad a gwrando cyfoethog yn holl bwysig i sicrhau deilliannau llwyddiannus.
Cliciwch ar y camau isod i gael cymorth enghreifftiol ar gyfer y broses hon.

PAM? – Ystyriwch pa sgiliau siarad a gwrando sydd angen sylw

Pam? – rhoi sylw i’r sgil neu’r sgiliau allweddol siarad a gwrando sy’n deillio o’r ddau ddatganiad Yr Hyn sy’n Bwysig (Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi’r canllawiau i chi ar sut y dylai’r dysgwyr wneud cynnydd o fewn y datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig yn ystod eu hamser yn yr ysgol ac yn eich helpu chi i ddewis cynnwys ar gyfer rhoi’r profiadau, gwybodaeth a sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau a gweithgareddau sy’n mynd yn fwy heriol wrth fynd drwy’r camau cynnydd. Bydd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ddyfnhau ac atgyfnerthu a’u hystyried mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd dysgu.

Mae’r Fframwaith Llythrennedd hefyd yn ddogfen ddefnyddiol i chi droi ati sy’n rhoi manylder o ran trosglwyddo’r sgiliau yma i feysydd eraill ar draws y cwricwlwm.

Ystyriwch hefyd os oes gennych gyd-destun dilys a phwrpasol er mwyn ysgogi a datblygu sgiliau siarad a gwrando.

MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

GWRANDO

cyfathrebu

dehongli – clywed

dehongli’n feirniadol a di-duedd

datblygu dealltwriaeth, empathi, ymateb, cyfryngu

SIARAD

cyfathrebu clir ac effeithiol

cywair addas

rhyngweithio

dewis iaith briodol a chyfryngu

archwilio syniadau

mynegi safbwyntiau

gwybodaeth a dealltwriaeth

defnyddio ac addasu ieithoedd

meithrin perthynas ag eraill

rolau, genres, ffurfiau, cyfryngau ac arddulliau

Y Fframwaith Llythrennedd

GWRANDO

gwrando am ystyr

datblygu geirfa

gwrando i ddeall

gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

SIARAD

eglurder a geirfa

diben siarad

siarad cydweithredol

gofyn cwestiynau

BETH? – Sicrhewch bod pwrpas y siarad yn wedi ei adnabod yn glir

Cynlluniwch ar sail y cyd-destun gan roi pwrpas i’r siarad a’r gwrando e.e. mynegi syniadau, esbonio. Gall hyn fod drwy siarad archwiliadol (dysgwyr yn cael cyfle i drafod, datblygu syniadau, gwyntyllu barn, cyflwyno syniadau ayyb), siarad dadleugar (dysgwyr yn cyflwyno safbwyntiau ac yn dadlau o blaid ac yn erbyn) neu siarad i gyflwyno.

Ystyriwch yr ystod sgiliau llafaredd a’r dulliau o’u datblygu drwy strategaethau pwrpasol:  

  • corfforol – defnydd o’ch llais neu ystumiau corfforol
  • ieithyddol –geirfa ac ymadroddion, strwythur, amrywiaeth iaith a thechnegau rhethregol
  • gwybyddol – y cynnwys, egluro a chrynhoi, hunan-reolaeth, rhesymu ac ymwybyddiaeth o gynulleidfa
  • cymdeithasol ac emosiynol – gweithio gydag eraill, gwrando ac ymateb a datblygu’r hyder i siarad

Cyflwyno gwybodaeth

Datrys problem

Cyrraedd cytundeb neu negydu

Herio

Esbonio

Mynegi syniadau

Disgrifio

Er mwyn deall a cheisio rhesymu

Diddanu

Dylanwadu / darbwyllo

Rhoi cyfarwyddiadau

Casglu a rhannu gwybodaeth

Trafod

Hybu, annog a chreu syniadau

Adeiladu perthynas

Trefnu a rhoi strwythur i syniadau

Dysgu iaith er mwyn cofio

Dadansoddi a gwerthuso

Ailadrodd digwyddiadau

Perswadio

SUT? Dewis y dulliau addysgu gorau ar gyfer y dysgwyr

  • Ystyriwch pa sgaffaldiau sydd angen eu cyflwyno i gyd-fynd gyda’ch testun neu bwnc trafod fel eu bod yn cynnal a chyfoethogi’r siarad.
  • Oes cyfle i fodelu’r siarad neu’r trafod?
  • Pa iaith/geirfa allweddol, bonion brawddeg, iaith dechnegol ayyb ydych chi’n dymuno i’r dysgwyr eu ddefnyddio. Byddwch yn dewis y rhai sy’n bwysig yng nghyd-destun y dasg ac yn rhoi’r cyfle i ymarfer, gwahaniaethu ac annog dysgwyr i ‘siarad fel gwyddonydd/mathemategydd/daearyddwr/artist ayyb.
  • Ystyriwch rôl technoleg ddigidol, os yn berthnasol, i gyfoethogi’r addysgu a’r dysgu.

Yna ewch ati i ddewis strategaeth(au) addas er mwyn ysgogi’r drafodaeth a’r dysgu wrth ddatblygu sgiliau siarad a’r gwrando. Ystyriwch natur eich grwpiau a beth yw rolau’r unigolion o fewn y grŵp e.e. oes yna un yn gwrando a chrynhoi’r drafodaeth, oes yna un yn holi cwestiynau – gall y strategaeth rydych yn ddewis ddylanwadu ar y rolau o fewn y grŵp. Gallwch esbonio’r rolau ydy hynny drwy fodelu ac fe allech rannu’r cyfrifoldebau yn fwriadus er mwyn targedu unigolion, neu roi’r dewis yna i’r grwpiau? Gall hyn gael ei ddatblygu ymhellach drwy osod tasg gyflwyno i eraill, ond does dim rhaid gwneud hynny bob tro.

Sgaffaldiau (i wella ansawdd y trafod):

  • canllawiau trafod (mpll) a phrotocolau
  • modelu
  • matiau siarad:
    – iaith i’w ddefnyddio/geirfa allweddol
    – dechrau brawddegau/bonion brawddeg
ADNODDAU CEFNOGOL

Defnyddio strategaethau i strwythuro’r siarad:

  • dewis strategaeth addas
  • natur y grwpiau e.e. pâr, triawd, cylch ayyb
  • rolau siarad/trafod/gwrando

 

DEWIS STRATEGAETHAU
MYFYRIO ar lwyddiant

Ar ôl y dasg neu’r weithgaredd, ystyriwch pa gyfle sydd i fyfyrio a rhoi adborth. Gall y dysgwyr hunan asesu neu drafod eu dysgu gyda’i gilydd gan gyfeirio at y mpll gytunwyd a rhannu sut i wella a datblygu eu sgiliau llafaredd ymhellach. Gall athrawon fyfyrio ar lwyddiant y strategaeth a’r dasg gan ystyried os oes cynnydd wedi bod mewn mwynhad, brwdfrydedd, ymrwymiad, diddordeb ac hefyd er mwyn asesu os oes cynnydd wedi bod yn ansawdd sgiliau gwrando a siarad y dysgwyr.

Myfyrio/adborth:

Disgyblion: trafod a rhannu sut i wella a datblygu eu sgiliau llafaredd (hunan asesu ac asesu cyfoedion)

Myfyrio/adborth:

Athrawon: i ba raddau mae’r dasg a’r strategaeth wedi dangos cynnydd yn sgiliau gwrando a siarad y dysgwyr?

Rhoi rhaglen Ein Llais Ni ar waith yn ysgol Pen-y-Bryn, Bethesda.

Ysgol Pen y Bryn - gwybodaeth ychwanegol

Mae’r llinynnau Siarad a Gwrando o’r Fframwaith Llythrennedd wedi ei cyflwyno yn y dolenni isod (un fersiwn yn ei gyfanrwydd, ac un o Cam Cynnydd 1 i 5). Mae’n adnodd defnyddiol i roi manylder ac arweiniad i ddatblygu a trosglwyddo’r sgiliau yma i feysydd eraill ar draws y cwricwlwm.

h

Fframwaith Llythrennedd - Siarad a Gwrando (PDF)

h

Fframwaith Llythrennedd - Siarad a Gwrando Cam cynnydd 1-5 (PDF)

Cynllunio ar gyfer Siarad a Gwrando (MP4)

h

Cynllunio Siarad a Gwrando (PDF)

Enghreifftio’r defnydd o’r digidol yn y broses gynllunio:

Digidol yn y Broses Gynllunio (MP4)

h

Digidol yn y broses gynllunio (PDF)

Dewis Strategaethau

Digidol

Adnoddau cefnogol

Enghreifftiau o ysgolion