CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Safleoedd

Gofyn i’r dysgwr osod gwrthrychau neu luniau mewn trefn yn unol â meini prawf penodol.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae safleoedd yn gofyn i’r dysgwr osod gwrthrychau/lluniau a gosodiadau mewn trefn yn unol â meini prawf penodol. Mae hyn yn ffordd wych o annog siarad .

Bydd angen cytuno ar feini prawf llwyddiant cyn trafod a pharatoi geirfa / gwrthrychau / lluniau i’w trefnu o flaen llaw. Bydd y disgyblion yn trafod safleoedd ac yn fodlon ystyried ac addasu yn ôl yr angen. Mae gofyn i’r disgyblion gyfiawnhau eu dewis o safleoedd a bod yn barod i dderbyn safbwyntiau a syniadau gwahanol wrth drafod.

Mae’r strategaeth yn debyg iawn i strategaeth Deiamwnt 9.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Mae’r disgrifiad uchod yn addas ar gyfer dysgwyr 3 i 8 oed

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Safleoedd
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/safleoedd

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)