ARWAIN EIN LLAIS NI

RHOI AR WAITH

Camau Cychwynnol

Dyma weithredu enghreifftiol y gellir ei ddilyn neu ei addasu er mwyn datblygu ac arwain yr ysgol i ddatblygu sgiliau llafaredd (siarad a gwrando):

  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd llafaredd o fewn y cwricwlwm drwy adnoddau Ein Llais Ni ac ymchwil ehangach – arweinydd y maes yn uwchsgilio ei hun

Pam Llafaredd?

  • Sicrhau cyfranogiad gan y staff i sefydlu gweledigaeth ysgol gyfan ar gyfer ‘Llafaredd ar draws y cwricwlwm’
h

Creu Gweledigaeth

  • Er mwyn adnabod yr hyn sydd angen ei ddatblygu mewn perthynas â llafaredd, bydd angen dealltwriaeth gadarn o’r isod:
    • Beth yw’r negeseuon o brosesau hunan werthuso’r ysgol?
    • Beth yw effaith y gweithredu ar yr addysgu a’r dysgu?
h

Adnodd hunanwerthuso dysgu ac addysgu

    • Beth sydd angen ei flaenoriaethu e.e. ei weithredu drwy gynllun datblygu’r ysgol?
    • Yn realistig, lle hoffai’r ysgol fod mewn blwyddyn – gosod cerrig milltir eglur ac adnabod y dulliau canfod gwybodaeth e.e. holiaduron gwaelodlin ar ddechrau a diwedd y cyfnod gweithredu, trafodaethau staff, cynlluniau staff, arsylwadau gwersi, teithiau dysgu, cyfweliadau gyda dysgwyr a staff.
h

Datblygu a mesur effaith (PDF)

h

Datblygu a mesur effaith (Word)

h

Gweithredu a gwreiddio Ein Llais Ni

  • Adnabod y gwaelodlin mewn perthynas â’r sefyllfa gyfredol o safbwynt y dysgwyr a’r athrawon
h

Holiadur Ein Llais Ni i ddysgwyr 3 - 8 oed

h

Holiadur Ein Llais Ni i ddysgwyr 8 - 14 oed

h

Holiadur Ein Llais Ni i ymarferwyr

  • Edrych ar enghreifftiau o ysgolion i gael blas ar weithredu llwyddiannus
  • Adnabod anghenion dysgu proffesiynol y staff.
  • Llunio cwestiwn ymholi ar sail yr hyn sydd angen ei ddatblygu e.e. ‘I ba raddau mae. . . yn effeithiol fel dull o wneud gwahaniaeth . . .?’
  • Ymgyfarwyddo efo’r camau gweithredu enghreifftiol er mwyn gweld model o gynllun strategol

Rhoi ar waith

Pa fath o weithredu sydd angen digwydd wrth ddechrau ar y gwaith?

Beth sydd angen ei ddarganfod a’i ddeall?

Dyfnhau

Wrth i’r gwaith ddatblygu, beth sydd yno i gefnogi cynnydd pellach?

Beth ellir ei wneud i ledaenu’r gwaith ar draws yr ysgol?

Gwerthuso a Gwreiddio

Sut mae sicrhau fod y newid yn un hir-dymor ac wedi’w ledaenu ar draws yr ysgol a chwricwlwm yr ysgol?