CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Cefn wrth gefn

Bydd parau yn eistedd cefn wrth gefn ac un disgybl yn derbyn llun neu fap cyn rhoi cyfarwyddiadau i’r partner eu dilyn, er enghraifft, i dynnu’r llun neu ddilyn cyfarwyddiadau o un lle i’r llall ar y map. Dim ond wedi i’r gweithgaredd orffen y caiff y disgybl fu’n dilyn y cyfarwyddiadau droi i weld y llun neu’r map gwreiddiol er mwyn ei gymharu â’r hyn a luniwyd ganddynt hwy.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae hon yn dasg gyflym i annog disgrifio a gwrando effeithiol.

Ar gyfer y dasg, mae disgyblion yn eistedd cefn wrth gefn gyda phartner. Bydd yr athro wedi rhoi llun i bartner A a darn o bapur plaen i bartner B. Mae partner A yn siarad a phartner B yn gwrando. Mae partner A yn disgrifio’r llun ac mae angen i bartner B ei ail greu ar bapur. Yna maent yn cyfnewid rolau gyda llun gwahanol.

I lwyddo, mae angen i bartner A ddisgrifio’n syml a chlir a phartner B i wrando ofalus a gweithredol. Mae hi’n dasg sydd yn datblygu’r llinyn cymdeithasol ac emosiynol yn y fframwaith Llafaredd.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblyguddatblygu fy sgiliau gwrando, talu sylw a deall wrth chwarae a rhyngweithio.

Mae hon yn dasg annog disgrifio a gwrando’n effeithiol.

Lego

Ar gyfer y dasg, mae disgyblion yn eistedd cefn wrth gefn gyda phartner. Gyda 6 bric (duplo/ lego) mae dysgwr A yn creu model ac mae rhaid i ddysgwr B efelychu’r model.

I lwyddo, mae angen i bartner A disgrifio’n syml a chlir a phartner B i wrando ofalus a gweithredol. Mae hi’n dasg sydd yn datblygu’r llinyn cymdeithasol ac emosiynol yn y fframwaith Llafaredd.

 

Tasg yn yr ardal creadigol (tu mewn)/ Cegin fwd (tu allan)

  • Gan ddefynddio îsl mae plentyn A yn tynnu llun o gymeriad/ tudalen o lyfr

 

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Cefn wrth gefn
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/cefn-wrth-gefn

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)