EIN
LLAIS
NI

‘ Datblygu siaradwyr y dyfodol’

CROESO

Bwriad Ein Llais Ni yw amlygu pwysigrwydd llafaredd yng nghwricwlwm yr ysgol a chynnig syniadau a strategaethau y gall ysgolion/athrawon eu datblygu er mwyn annog a hybu medrau siarad a gwrando dysgwyr. Wrth i bob athro roi sylw bwriadus i lafaredd fe fydd yn galluogi cynnydd mewn hyder a lles dysgwyr, eu caniatáu i adeiladu perthynas â’u cyfoedion a’u cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar draws y meysydd dysgu drwy’r Gymraeg.

Mae’r rhaglen yn eich cynorthwyo i adnabod a datblygu 7 elfen penodol sydd ynghlwm â datblygu llafaredd y Gymraeg. Mae’r graffeg isod yn amlygu’r elfennau hyn ac o fewn y wefan bydd canllawiau ac arweiniad i’ch cefnogi i wreiddio a gwneud newid hir-dymor. Bydd yn arwain at gynnydd mewn hyder a safonau Cymraeg eich dysgwyr.

Mae’r wefan wedi ei chynllunio:

  • i amlygu pwysigrwydd llafaredd ar draws y cwricwlwm, yr ystod o sgiliau sydd angen eu datblygu a rhoi mynediad i ffynonellau ymchwil defnyddiol (y rhan Pam?)
  • i roi arweiniad ac adnoddau i athrawon fel y gallent roi cynnig ar strategaethau amrywiol yn ôl anghenion eu dysgwyr (y rhan Cynllunio)
  • i gynnig arweiniad i arweinwyr llafaredd yr ysgolion – y camau ymarferol y gellid eu dilyn yn ogystal ag adnoddau cefnogol i’w gwireddu (y rhan Arwain)

  • i gynnig mynediad at arferion effeithiol a sesiynau dysgu proffesiynol cefnogol (y rhan Dysgu Proffesiynol)

Mae’r gwaith wedi ei ddatblygu ar y cyd ag ysgolion ar draws rhanbarth y gogledd a Phrifysgol Bangor, gyda’r Athro Enlli Thomas (Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol – Y Gymraeg) sy’n arbenigwr rhyngwladol ar hyrwyddo sgiliau llafaredd a strategaethau addysgu dwyieithog yn arwain yr ymchwil gweithredol.

Beth yw Ein Llais Ni?

  • Amlygu pwysigrwydd llafaredd yng nghwricwlwm yr ysgol yng nghyd-destun y Gymraeg (ar draws yr holl ystod oed).
  • Datblygu addysgeg a chynnig syniadau ar gyfer strategaethau y gall ysgolion/athrawon eu datblygu er mwyn annog a hybu medrau siarad a gwrando dysgwyr – gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol i gyfoethogi.
  • Adnodd Dysgu Proffesiynol sy’n rhoi arweiniad ar gynllunio a chyfeiriad at adnoddau i athrawon fel y gallent roi cynnig ar strategaethau amrywiol yn ôl anghenion eu dysgwyr.
  • Arweiniad i arweinwyr llafaredd ar y camau ymarferol y gellid eu dilyn yn strategol yn ogystal ag adnoddau cefnogol i’w gwireddu.

  • Mynediad at ymchwil ac arferion effeithiol.
Deilliannau Dymunol:
  • Dysgwyr yn mwynhau siarad Cymraeg.
  • Ymarferwyr yn meithrin hunan hyder a lles dysgwyr a’u datblygu’n gyfathrebwyr dwyieithog hyderus sy’n mwynhau siarad Cymraeg.
  • Ymarferwyr yn arbrofi â strategaethau (gan gynnwys defnyddio arfau digidol) er mwyn hyrwyddo sgiliau llafaredd yn y Gymraeg.
  • Datblygu athrawon fel ymchwilwyr gweithredol – myfyrio ar ymchwil gyfoes, modelu’r strategaethau ar waith ac arfarnu’r llwyddiant trwy gyflwyno astudiaethau achos a chyd-weithio gyda ymarferwyr eraill er mwyn datblygu’r addysgeg.
  • Galluogi athrawon i gynllunio’n fwy bwriadus er mwyn cefnogi a datblygu medrau siarad a gwrando’r dysgwyr yn y Gymraeg yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru (gan ystyried yr egwyddorion cynnydd o’r MDaPh a’r Fframwaith Llythrennedd).
  • Ymarferwyr yn cynnig profiadau dilys i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg mewn sefyllfaoedd amrywiol yn eu bywydau bob dydd trwy gydweithio â phartneriaid (asiantaethau/sefydliadau/unigolion).
  • Pob athro yn gwneud amser i addysgu llafaredd
  • Amgylchedd ddysgu gynhaliol drwy’r ysgol i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando effeithiol.
  • Dilyniant cadarn mewn strategaethau a dulliau dysgu ar draws y continwwm.
  • Ymarferwyr yn annog parodrwydd dysgwyr tawedog i gyfrannu ar lafar.
  • Dysgwyr yn derbyn cyfleoedd parhaus i ymarfer medrau siarad a gwrando ar draws y cwricwlwm
  • Dysgwyr yn datblygu i fod yn gynyddol hyderus wrth siarad Cymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd gan ddefnyddio technegau siarad archwiliadol a thechnegau siarad i gyflwyno.
  • Dysgwyr yn efelychu modelau cyfathrebu o ansawdd uchel.

Cynnwys y Wefan

Pam Llafaredd?

Arweiniad a mannau cyfeirio i athrawon ar bwysigrwydd llafaredd fel y gallent roi cynnig ar strategaethau amrywiol yn ôl anghenion eu dysgwyr.

Cynllunio

Mynediad at strategaethau ac arferion cynllunio effeithiol yn ogystal âg adnoddau i gefnogi dysgu proffesiynol. Awgrymiadau ar rôl technoleg ddigidol i gyfoethogi’r addysgu a’r dysgu.

Arwain

Arweiniad ac adnoddau ar gyfer arweinwyr llafaredd yr ysgolion – y camau ymarferol y gellid eu dilyn yn ogystal ag adnoddau cefnogol i’w gwireddu.

Dysgu Proffesiynol

Mynediad at gyflwyniadau ymarferol a recordiadau o weminarau i’w defnyddio mewn sesiynau Dysgu Proffesiynol o fewn ysgol neu glwstwr.