CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Diemwnt 9

Defnyddir diemwnt mawr (a grëwyd o naw diemwnt bach) i drefnu naw gosodiad yn eu trefn pwysigrwydd neu mewn unrhyw drefn benodol o un i naw.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae strategaeth Deiamwnt 9 yn ddull defnyddiol i ffurfio barn a gwneud penderfyniadau. Mae o’n adnodd sy’n hyrwyddo trafodaeth neu fyfyrio ynghylch pwysigrwydd cymharol amryw o ffactorau. Mae Rhestru Diemwnt, yn wahanol i restru syml, yn eich annog i ganolbwyntio ar y ffactor pwysicaf un – neu’r un rydych chi’n cytuno’n fwyaf ag ef – yna’r ddau nesaf, y tri nesaf, y ddau nesaf a’r un olaf. Mae dysgwyr yn eu rhoi ar ffurf diemwnt fel y dangosir ac yna’n cyfiawnhau eu penderfyniadau. Mae Pyramid Blaenoriaeth yn darparu fersiwn symlach o’r un syniad.

deiamwnt 9 diagram

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)