CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Powlen bysgod

Mae dull y bowlen bysgod yn ddull lle mae pob disgybl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn weithredol mewn trafodaeth.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Mae dull y bowlen bysgod yn ddull lle mae pob disgybl yn cael y cyfle i gymryd rhan weithredol mewn trafodaeth. Mae’r dull yn cymryd ei enw o drefn gyffredinol y drafodaeth, gan fod nifer fach o gadeiriau wedi’u gosod mewn cylch mewnol (oddeutu tair i bump) a nifer mwy yn cael eu gosod fel cylch allanol mwy. 

Nod cyffredinol y dull yw i ddisgyblion ddatblygu’r sgiliau o fod yn gyfranwyr ac yn wrandawyr o fewn trafodaeth, gan alluogi disgyblion i ofyn cwestiynau, cyflwyno eu barn a’u meddyliau eu hunain, gwrando ar eraill a rhannu gwybodaeth gan ddefnyddio’r dull hwn (Yabarmase , 2013). 

Wrth weithio yn y ffordd yma, rôl yr athro yw rheoli llif y drafodaeth a sicrhau fod pawb wedi cael cyfle i siarad, e.e. ymyrryd os yw disgyblion wedi siarad yn rhy hir, gwahodd eraill o fewn y cylch mewnol i siarad, a darparu gwerthusiad o’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal.

Nodi pwnc posibl i’w drafod (os gellir ystyried pwnc dadleuol, mae’n debygol y byddai hyn yn cynyddu lefel ymgysylltiad y disgyblion) 

  • Gofyn i’r disgyblion siarad am eu barn ar y mater, gyda phartner, a chofnodi eu barn yn ysgrifenedig.
  • Dangos sut mae dull powlen bysgod yn gweithio i’r disgyblion a’r disgwyliadau sy’n codi o’i ddefnyddio.
  • Dechrau’r drafodaeth trwy ddewis disgyblion i eistedd yn y cylch mewnol a thrafod y syniadau a’r safbwyntiau a gododd yn ystod eu trafodaethau cynharach gyda phartneriaid.
  • Gofyn i’r disgyblion yn y cylch allanol wrando ar drafodaeth y cylch mewnol ac ysgrifennu unrhyw bwyntiau o ddiddordeb sy’n ymddangos neu unrhyw gwestiynau y gallent fod eisiau eu gofyn ar ôl i’r drafodaeth ddod i ben.
  • Gofyn i’r cylch mewnol drafod y pwnc am tua phum munud, heb ymyrryd dim oni bai fod y drafodaeth yn dirywio neu i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu at y drafodaeth
  • Pan fydd y cylch mewnol yn gorffen eu trafodaeth, gofyn i’r disgyblion yn y cylch allanol fynegi barn am eu trafodaeth a gofyn cwestiynau. Mae hwn yn amser priodol i fodelu cwestiynau a sylwadau da i’r disgyblion.
  • Dewis set arall o ddisgyblion i eistedd yn y cylch mewnol ac ailadrodd y broses nes bod pob disgybl wedi cael cyfle i fod yn rhan o drafodaeth y cylch mewnol.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)