PAM DATBLYGU
LLAFAREDD?

h

Pam fod llafaredd yn bwysig? (PDF)

Beth yw llafaredd?

Diffinir llafaredd fel ‘gallu plant i ddefnyddio’r iaith lafar i fynegi eu safbwyntiau a chyfathrebu ag eraill, mewn addysg ac yn eu bywyd bob dydd’ [Mercer, N. a Manion, J., 2018 ‘Llafaredd ar draws cwricwlwm Cymru’ t. 9 a chyfieithiad o Wilkinson, A., 1965, The Concept of Oracy]. Mae’r gallu hwn yn cwmpasu nifer o sgiliau (sgiliau gwrando, sgiliau ynganu, sgiliau canolbwyntio, sgiliau iaith ayyb.) ac yn cael eu dylanwadu gan ffactorau tu hwnt i iaith (sut mae’r unigolyn yn teimlo, perthynas rhwng yr unigolion sy’n cyfathrebu, ayyb.). Er mwyn gallu bod yn siaradwr effeithiol, rhaid datblygu nifer o sgiliau y gellid eu datblygu yn y dosbarth drwy greu strategaethau pwrpasol. Mae’r rhain yn sgiliau corfforol, ieithyddol, gwybyddol, a chymdeithasol/emosiynol (addasiad o Mercer, Warwick & Ahmed, 2017, t. 286).

Pan gyfeirir at lafaredd yn adnodd ‘Ein Llais Ni’ byddwn yn ystyried y modd mae ein bobl ifanc yn defnyddio iaith i gyfathrebu yn Gymraeg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol er mwyn arfogi ein dysgwyr i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd, ac yn gyfathrebwyr hyderus yn eu cymdeithas ddwyieithog.

Pam datblygu llafaredd – ei bwysigrwydd a’r hyn mae ymchwil yn ei ddweud?

“Mae sylfaen dda o ran sgiliau llafaredd yn hanfodol ar gyfer nifer o ffactorau, gan gynnwys: Perfformiad Academaidd/ Iechyd Meddwl/ Hunan reolaeth/ Ymddygiad/ Lles/ Presenoldeb ac ymrwymiad/ Ymdeimlad o berthyn/ Hunan-hyder/ Datblygiad Personol”

(O Enau Plant – 2022)

“O ystyried yr holl ffactorau sy’n dylanwadu ar lafaredd plant nid oes syndod bod rhai yn ei gweld hi’n fwy heriol i sgwrsio’n gyhoeddus yn eu hiaith wannaf. Yr hyn sydd angen yw bod plant yn cael y cyfle i arbrofi ac ymarfer defnyddio iaith at wahanol bwrpasau drwy gyfrwng tasgau ac ymarferion sydd o bwys iddyn nhw ac mewn cyd[1]destun lle mae pob plentyn yn gallu teimlo’n gyfforddus” O Enau Plant, 2022)

“Mae cyfathrebu clir ac effeithiol trwy ieithoedd yn un o sgiliau pwysig bywyd“

MDaPh Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu CiG

h

O Enau Plant (PDF)

Enlli Thomas a Gareth Caulfield

h

Erthygl Golwg - O Enau Plant (PDF)

h

Dulliau Addysgu Dwyieithog (PDF)

h

Trawsieithu yn y dosbarth (PDF)

Adolygiad Llafaredd ar draws cwricwlwm Cymru gan Mercer a Manion

Bwriad yr adolygiad oedd cynnig argymhellion ymarferol i ysgolion Cymru ar gyfer canolbwyntio ar addysgeg a chamau i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando. Mae hefyd yn ystyried pwysigrwydd llafaredd ar draws y cwricwlwm. Mae’n cynnig argymhellion ymarferol ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys:

  • yr angen i addysgu sgiliau iaith lafar

  • pwysigrwydd cynnig digon o gyfleoedd i ddefnyddio, ymarfer a datblygu eu sgiliau llafaredd ymhellach

  • defnyddio technegau effeithiol i addysgu llafaredd

  • dylai llafaredd gael ei ymgorffori yn yr addysgu a’r dysgu sy’n digwydd ymhob pwnc

  • datblygu amrediad llawn o sgiliau llafaredd drwy ystod eang ac addas o weithgareddau

Nod ‘Ein Llais Ni’ yw rhoi cyfle i’n hysgolion ail-ystyried yr egwyddorion a geir yn yr adolygiad hwn gan weithredu’r argymhellion yng ngoleuni dyluniad eu cwricwlwm newydd ar gyfer eu dysgwr.

Darllenwch bennod 6 a 7 (tudalen 46 – 59) o’r adolygiad

h

Adolygiad Llafaredd ar draws cwricwlwm Cymru Mercer a Manion (PDF)

Pwysigrwydd llafaredd yn y Cwricwlwm i Gymru

Mae datblygu medrau siarad a gwrando yn greiddiol i gefnogi ein dysgwyr i wneud cynnydd ar draws elfennau Fframwaith Llythrennedd CiG a chyflawni’r Pedwar Diben. Mae cyfeiriadau a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando yn frith trwy ganllawiau’r holl Feysydd Dysgu a Phrofiad a bydd pob Maes yn cynnig cyfleoedd unigryw i’w datblygu, eu hymestyn a’u cymhwyso e.e:

  • Iechyd a Lles: ‘Rwy’n gallu cyfrannu tuag at ddiwylliant lle mae siarad am iechyd meddwl a lles emosiynol yn wetirhed arferol sy’n cael ei annog’ (CC5)

  • Celfyddydau Mynegiannol: ‘Rwy’n gallu rhoi ac ystyried adborth adeiladol am fy ngwaith creadigol fy hun a gwaith creadigol pobl eraill, gan fyfyrio arno a’i wella yn ôl y gofyn’ (CC3)

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg: ‘Rwy’n gallu nodi cwestiynau y mae modd eu hymchwilio’n wyddonol, a gallu awgrymu dulliau ymholi addas’ (CC3)

Wrth edrych yn fanwl ar y cyflwyniad yma fe welwch gyfeiriad at bwysigrwydd sgiliau siarad a gwrando ymhob Maes Dysgu a Phrofiad

Llafaredd yn y Cwricwlwm i Gymru (MP4)

h

Ein Llais Ni fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru (PDF)

Llafaredd yn yr Hyn sy'n Bwysig ILlCh (MP4)

h

Trosolwg o'r Datganiadau yr Hyn sy'n Bwysig (PDF)

Llafaredd yn y MDaPh (MP4)

h

Datblygu sgiliau siarad a gwrando ar draws y cwricwlwm (PDF)

Podleisiau

Sgyrsiau gyda’r Athro Enlli Thomas (Is-ganghellor Cynorthwyol Y Gymraeg, Prifysgol Bangor), sy’n arwain ymchwil gweithredol prosiect ‘Ein Llais Ni’

Podlais 1: Trafod sgiliau siarad a gwrando ein dysgwyr heddiw a’i pharatoadau hi a’r tîm ar gyfer ymchwil gweithredol prosiect ‘Ein Llais Ni’ (GwE) cyn ei lansio ym mis Hydref 2021.

Podlais 2: Trafod dwyieithrwydd a byd ieithyddol cyfoethog y dysgwr o feistroli’r sgil hwn.

Podlais 3: Rhan o Raglen Aled Hughes (BBC Radio Cymru) – trafodir dwyieithrwydd yng ngoleuni canlyniadau’r cyfrifiad diweddar. Siarad hefyd am ddysgu iaith a phwysigrwydd dysgu am iaith, yn ogystal â thrafod cynnwys y llyfryn ‘O Enau Plant’ a gyhoeddwyd i gyd-fynd â’r ymchwil gweithredol prosiect ‘Ein Llais Ni’ (GwE).

Podleisiau Ein Llais Ni

Ffynhonnell ymchwil – Voice 21

Egwyddor Voice 21 yw i addysgu a chryfhau sgiliau llafaredd er mwyn datblygu lles, hunan-barch a hunanhyder disgyblion.

Mae gwefan Voice 21 yn cynnwys amrediad o wybodaeth am ddatblygu llafaredd.

Gwefan Voice 21
https://voice21.org/

Datblygwyd y ‘Fframwaith Sgiliau Llafaredd’ gan Brifysgol Caergrawnt â School 21 yn Stratford, Llundain. Mae’n nodi pedwar sgil ar gyfer datblygu iaith lafar sef: corfforol, ieithyddol, gwybyddol a chymdeithasol ac emosiynol. Ym mhob maes,mae is-setiau o sgiliau hefyd.

Gall gweithredu’r Fframwaith Sgiliau Llafaredd:

  • gyfrannu tuag at ‘gau’r bwlch’

  • fod yn ganolog i gwricwlwm yr ysgol.

  • gynnig ffocws llafaredd ym mhob pwnc ac ym mhob gwers.

  • sicrhau fod pob athro yn addysgu llafaredd yn benodol

Y Fframwaith Llafaredd

Enghraifft o strategaethau sy’n hyrwyddo sgiliau siarad a gwrando effeithiol ar waith yn School 21, Stafford, Llundain.

Please note where Voice 21 © 2020 resources are credited, they are shared with a Creative Commons Licence, Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 International (CC BY-NC-SA 4.0).