CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Gair am air
Rhoi geirfa allweddol i’r disgyblion ac yna’r disgybl yn disgrifio’r gair neu’r cysyniad heb ddefnyddio’r gair allweddol.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Dyma weithgaredd fer sydd yn ddefnyddiol ar ddechrau neu ddiwedd gwers fel ffordd o adolygu termau allweddol neu eiriau newydd.
Mae angen i’r athro baratoi’r eirfa o flaen llaw. Bydd y disgybl yn derbyn y gair ac yn gorfod disgrifio’r gair yn glir ac yn gryno heb ddefnyddio’r gair ei hun. Mae gofyn bod y gweddill yn gwrando’n ofalus ac yn ceisio dyfalu’r gair. Pan mae’r gair wedi ei ddyfalu, mae posib symud ymlaen i’r nesaf. Gellir cyflwyno elfen gystadleuol i’r strategaeth drwy roi pwyntiau am bob gair a chwarae timau yn erbyn ei gilydd.
Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed
Llwybrau Datblygu – defnyddio iaith mewn ffordd chwareus a llawn hwyl
Mae’r disgrifiad uchod yn addas ar gyfer dysgwyr 3 i 8 oed
Mae posib defnyddio lluniau ar gyfer hyn hefyd.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Gair am air
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/gair-am-air
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.