CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Llun Llonydd

Bydd grŵp o ddysgwyr yn trafod ac yn dod i benderfyniadau am osodiad llun fel pe bai wedi’i ddal ar gamera. Yna bydd cyfle iddynt esbonio wrth weddill y dosbarth.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Arf dramatig yw’r llun llonydd lle mae’r camera wedi ‘rhewi’ ar foment penodol. Nid yw’r rhan cyn nac ar ôl y llun yn cael ei weld gan y gynulleidfa, yr unig ran a welir yw’r eiliad sydd wedi ei ‘rewi’. Mae’n gyfle i ddod i gasgliad o’r hyn sydd wedi digwydd eisoes ac hefyd er mwyn rhagfynegi beth all ddigwydd nesaf. 

Er mwyn defnyddio llun llonydd ar gyfer trafodaeth, mae angen gofod yn y dosbarth er mwyn gallu gosod y dysgwyr a’r staff yn eistedd mewn cylch. Bydd yr athro yn cyflwyno’r testun dan sylw i’w drafod. Yna, bydd y dysgwyr yn trafod hyn. Bydd yr athro yn cyflwyno stori neu ddatganiad sy’n berthnasol i’r testun. Yna, bydd yr athro yn rhannu’r dosbarth i grwpiau o dri, pedwar neu bump.

Rhoddir oddeutu 5 a 10 munud i’r dysgwyr lunio eu llun llonydd sydd yn seiliedig ar ran o’r stori/datganiad gyflwynwyd gan yr athro. Wrth i’r dysgwyr weithio ar eu llun llonydd, dylai’r athro grwydro o amgylch yr ystafell yn cwestiynu ac yn rhoi cyngor.

Ar ddiwedd y cyfnod yma, gofynnir i’r dysgwyr eistedd yn ôl yn y cylch. Bydd y grwpiau yn cael cyfle i arddangos eu llun llonydd  (naill ai o ddewis yr athro neu’n gyfle i bob grŵp arddangos). Yn dilyn hyn, bydd cyfle i bob grŵp roi esboniad o’r hyn oedd yn eu meddyliau wrth osod a threfnu’r llun llonydd. Opsiwn arall yw fod trafodaeth bellach yn dilyn arddangos ac esbonio pob llun llonydd.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygu –  defnyddio iaith yn bwrpasol.

Arf dramatig yw’r llun llonydd lle mae’r camera wedi ‘rhewi’ ar foment penodol. Nid yw’r rhan cyn nac ar ôl y llun yn cael ei weld gan y gynulleidfa, yr unig ran a welir yw’r eiliad sydd wedi ei ‘rewi’. Mae’n gyfle i ddod i gasgliad o’r hyn sydd wedi digwydd eisoes ac hefyd er mwyn rhagfynegi beth all ddigwydd nesaf.

Mewn grwpiau bychain, gall y dysgwyr fod yn griw o dditectifs a thrafod yr hyn sydd yn digwydd yn y llun. Gall yr oedolyn ofyn cwestiynau megis ‘Beth sydd i’w weld yn y llun? Be sydd wedi digwydd cynt tybed? Pwy dynnodd y llun? Oes 'na gliwiau yn awgrymu fod…? a.y.b.

Unwaith mae’r dysgwyr yn deall y broses, gallant fynd ati i greu llun llonydd eu hunain a dewis grŵp o ddysgwyr i drafod eu lluniau gan ail adrodd y camau uchod.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)