CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Pleidlais dotiau
Bydd y dysgwyr yn ffurfio barn ac yn gwneud penderfyniadau.
Addas ar gyfer:
Agwedd i’w datblygu:
Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:
Gwrando
- Gwrando am ystyr
- Datblygu geirfa
- Gwrando i ddeall
- Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
Siarad
- Eglurder a geirfa
- Diben
- Siarad cydweithredol
- Gofyn cwestiynau
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Mae’r dechneg hon yn ddefnyddiol iawn i gael dysgwyr i ddatblygu a defnyddio meini prawf llwyddiant a hefyd i annog trafodaeth. Mae nifer o ddatganiadau/materion/cwestiynau/meini prawf llwyddiant yn cael eu cyflwyno i’r dysgwyr (gallai’r rhain fod wedi cael eu cynhyrchu hefyd trwy dasgu syniadau a chywain syniadau nifer o ddysgwyr), ac mae’n rhaid iddyn nhw ‘fwrw pleidlais’ sydd i’w hystyried. Dywedir wrth y dysgwyr bod hyd at ddeg ‘pleidlais’ ganddyn nhw i’w bwrw yn ôl pa mor bwysig yn eu barn nhw yw’r materion/meini prawf. Er enghraifft, os yw’r dysgwyr yn penderfynu bod deg datganiad o bwysigrwydd cyfartal, gallen nhw roi un ‘bleidlais’ i bob un, ond os ydyn nhw yn teimlo bod un o’r datganiadau yn bwysicach, gallen nhw ddangos hyn ar ffurf ‘pwysiad y bleidlais’ (ee, rhoi pedair pleidlais i’r datganiad hwn ac yna ystyried sut y bydden nhw’n bwrw’r chwe phleidlais sy’n weddill). Yn yr un modd â strategaethau blaenoriaethu eraill, mae’n rhaid i’r dysgwyr gyfiawnhau eu rhesymau.
Mae’r strategaeth hon yn gweithio’n arbennig o dda wrth ddechrau datblygu a defnyddio meini prawf llwyddiant oherwydd gall dysgwyr adolygu eu dewisiadau drwy gydol y dasg a chymhwyso’r syniadau hyn i dasgau dilynol.
Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.