CYNLLUNIO

STRATEGAETHAU

Strategaeth: Ystyr y gair

Bydd dysgwyr yn cyfateb term neu eiriau newydd sydd ar gardiau â diffiniadau sydd ar gerdyn arall. Bydd y dysgwyr yn cyfiawnhau eu dewisiadau ar lafar.

Addas ar gyfer:

UnigolParGrwpDosbarth

Agwedd i’w datblygu:

Datblygiad iaithMagu hyderDyfnhau dealltwriaethAdeiladu perthynas

Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando

  • Gwrando am ystyr
  • Datblygu geirfa
  • Gwrando i ddeall
  • Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol

Siarad

  • Eglurder a geirfa
  • Diben
  • Siarad cydweithredol
  • Gofyn cwestiynau

Arweiniad pellach i’r strategaeth:

Cyfle i ymestyn geirfa neu i gyflwyno termau arbenigol newydd o fewn pwnc penodol. Rhaid i ddysgwyr drafod yn archwiliadol er mwyn canfod ystyron i eirfa penodol. 

Bydd angen i’r athro ddarparu cyfres o gardiau sy’n cynnwys termau/gerifa sy’n benodol i’ch ffocws dysgu, a diffinidau sy’n cyd-fynd â’r termau hyn.

Ar gyfer y dasg hon, gall disgyblion eistedd a thrafod mewn parau neu fel grŵp. Mae gofyn bod y dysgwyr yn darllen y cardiau, cyn mynd ati i drafod pa derm sy’n cyd-fynd â’r diffiniad priodol. Ar ôl gwneud eu dewisiadau, rhaid gosod y cardiau gyda’i gilydd gan wirio a chyfiawnhau dewisiadau. Gall y grwpiau adrodd yn ôl i’r dosbarth ar ddiwedd y dasg.

Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed

Llwybrau Datblygu Adnabod ciwiau geiriol a di-eiriau ac ymateb iddyn nhw

Cyfle i ymestyn geirfa neu i gyflwyno termau arbenigol newydd o fewn pwnc penodol. Rhaid i ddysgwyr drafod yn archwiliadol er mwyn canfod ystyron i eirfa penodol. 

Bydd angen i’r athro ddarparu cyfres o gardiau sy’n cynnwys termau/geirfa sy’n benodol i’ch ffocws dysgu, a diffiniadau sy’n cyd-fynd â’r termau hyn. Mae posib gwneud hynny ar ffurf ysgrifenedig neu ar ffurf QR code er mwyn i’r dysgwyr ymarfer eu sgiliau gwrando.

Ar gyfer y dasg hon, gall disgyblion eistedd a thrafod mewn parau neu fel grŵp. Mae gofyn bod y dysgwyr yn darllen y cardiau, cyn mynd ati i drafod pa derm sy’n cyd-fynd â’r diffiniad priodol. Ar ôl gwneud eu dewisiadau, rhaid gosod y cardiau gyda’i gilydd gan wirio a chyfiawnhau dewisiadau. Gall y grwpiau adrodd yn ôl i’r dosbarth ar ddiwedd y dasg.

Templed cyflwyno’r strategaeth

Dewiswch ‘File – Make a copy’. Gallwch wedyn addasu/ychwanegu yn ôl y gofyn.

Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:

Prosiect Llafaredd CCD – Ystyr Y Gair
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/ystyr-y-gair

Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/

Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/

Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)