ENGHREIFFTIAU
YSGOLIONYsgol Maenofferen
3-8 oed
8-11 oed
11-14 oed
14-16 oed
Cyfres o dasgau’n cyfrannu at gyflwyno gwybodaeth ar lafar gan ddefnyddio’r digidol.
Bwriad
Cyd-destun:
Arfogi’r dysgwyr i gyflwyno gwybodaeth ar lafar yn hyderus am y planedau yng nghysawd yr haul
Gweithredu:
- Casglu ffeithiau am y planedau a chreu amrywiaeth o waith iaith a chreadigol i gyfoethogi’r dysgu.
- Defnyddio app Chatterpix i ‘ddod a’r planedau yn fyw’ a chofnodi gwybodaeth y dysgwyr am blanedau ar lafar gan fyfyrio a thrafod y dysgu i fireinio’u cyflwyniad.
Effaith
- Y dysgwyr yn gallu cyflwyno gwybodaeth yn naturiol ar lafar gan ddefnyddio geirfa bwrpasol a chyfathrebu’n glir a diddorol
- Mwynhad y dysgwyr o siarad yn Gymraeg yn amlwg drwy’r defnydd o’r digidol a hynny yn arwain at ennyn diddordeb y gwrandawr.
- Cynnydd da yn sgiliau ieithyddol y dysgwyr gyda sylw gwerthfawr yn cael ei roi i batrymau brawddegol, amrywio tôn, ynganu’n glir a defnyddio lefelau amrywiol o ran cryfder y llais