CYNLLUNIO
STRATEGAETHAUStrategaeth: Rolau trafod
Rolau: holwr / chwilotwr / heriwr / datblygwr syniadau / symbylwr / cadeirydd / crynhöwr.
Addas ar gyfer:




Agwedd i’w datblygu:




Fframwaith Llythrennedd Cwricwlwm i Gymru:

Gwrando
- Gwrando am ystyr
 - Datblygu geirfa
 - Gwrando i ddeall
 - Gwrando fel rhan o siarad cydweithredol
 

Siarad
- Eglurder a geirfa
 - Diben
 - Siarad cydweithredol
 - Gofyn cwestiynau
 
Arweiniad pellach i’r strategaeth:
Os yw dysgwyr yn trafod mewn grwpiau, gall fod yn fuddiol rhoi rôl iddynt. Mae hyn yn arbennig o wir os yw dysgwyr yn cael trafferth trafod yn effeithiol. Drwy ddynodi rolau mewn grŵp, mae hyn yn rhoi mwy o strwythur ac yn rhoi ymdeimlad cryfach o bwrpas i ddysgwyr – weithiau mae angen hyn os yw dysgwyr yn ei chael hi’n anodd rhoi hyn i’w hunain.
Bydd gan bob dysgwr ym mhob grŵp rôl benodol y mae disgwyl iddynt ei chwarae, yn rhan o’u rôl ehangach yn y drafodaeth. Mae hyn yn rhoi rhywbeth i’r dysgwyr ganolbwyntio arno a rhoi ymdeimlad cliriach iddynt o’r hyn sydd angen iddynt ei wneud i lwyddo.
Dyma rai enghreifftiau o rolau posib: holwr/ chwilotwr, heriwr, datblygwr syniadau, symbylwr a chadeirydd, crynhöwr, cwestiynwr, ysgrifennydd, amserydd.
Dylid sicrau fod pob disgybl yn deall y rolau a’u cyfrifoldebau o fewn y rôl cyn cychwyn ar y dasg. Gellir paratoi cardiau gyda meini prawf y rôl arnyn nhw o flaen llaw neu fel dosbarth.
Arweiniad ychwanegol ar gyfer 3-8 oed
Llwybrau Datblygu – cyflawni arferion cyfarwydd ac ymgymryd â rolau wrth chwarae.
Gyda ‘Lego Kit’ (wedi’i ddylunio gan ddysgwyr 8-11 ar gyfer 3 i 8 oed), bydd grŵp o dri yn mynd ati i adeiladu gyda’r Lego a dilyn cyfarwyddiadau un unol â’u rolau. Bydd gan bob dysgwr rôl benodol e.e:
Peirianydd:
- Dweud wrth y cyflenwr pa ddarnau sydd angen
 - Dweud wrth yr adeiladwr sut i roi’r darnau at ei gilydd
 
Cyflenwr:
- Trefnu’r darnau
 - Gwrando ar gyfarwyddiadau gan y peirianydd
 - Pasio’r brics i’r adeiladwr
 
Adeiladwr:
- Derbyn darnau gan y cyflenwr
 - Gwrando ar gyfarwyddiadau gan y peirianydd
 - Rhoi’r darnau at ei gilydd
 
			Dolenni i enghreifftiau ac arweiniad pellach:
Prosiect Llafaredd CCD – Rolau trafod
https://sites.google.com/hwbcymru.net/prosiect-llafaredd-llais21/adnoddau/rolau-trafod
Adnoddau ‘Oracy Pioneers Voice 21’
https://voice21.org/wp-content/uploads/2020/03/York-NOP-Journal.pdf
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Cynradd)
https://noisyclassroom.com/primary-oracy-activities/
Strategaethau ‘The Noisy Classroom’ (Uwchradd)
https://noisyclassroom.com/secondary-oracy-activities/
Strategaethau ‘How to use discussion in the classroom’ (Mike Gershon 2013)
- Athrawon GwE – cysylltwch gyda’ch YCG neu dîm Ein Llais Ni (einllaisni@gwegogledd.cymru) i gael mynediad i’r adnoddau hyn.
 
			  