DYSGU
PROFFESIYNOL
Rhaglen enghreifftiol Dysgu Proffesiynol Ein Llais Ni
Gwybodaeth am ein rhaglen hyfforddi:
Cyfarfod staff
Amser cyflwyno: 1-2 awr
Sesiwn hanner diwrnod/gwyll
Dyfnhau gwybodaeth am raglen Ein Llais Ni – wedi’w deilwra i anghenion yr ymarferwyr/ysgol/clwstwr
Amser cyflwyno: 0.5 diwrnod
Gweithdy - ymarferwyr
Gweithdy ymarferol sy’n rhoi arweiniad ar gynllunio profiadau cyfoethog gan roi llafaredd yn ganolbwynt i’r addysgu a’r dysgu
Amser cyflwyno: 1 diwrnod
Gweithdy - arweinwyr
Gweithdy ymarferol i arfogi a datblygu rôl arweinwyr er mwyn sicrhau newid hirdymor a chynnydd da mewn sgiliau siarad a gwrando ar draws yr ysgol
Amser cyflwyno: 1 diwrnod
Rhaglen i ymarferwyr er mwyn sefydlu a gwreiddio Ein Llais Ni yn y dosbarth
Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o bedwar diwrnod (gydag amser gweithredu rhwng pob diwrnod). Cefnogi ymarferwyr i gynllunio cyfleoedd ymarferol i ddatblygu a chymhwyso medrau siarad a gwrando mewn cyd-destunau dilys a bywyd go iawn ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad
Amser cyflwyno: 4 diwrnod
Rhaglen i arfogi arweinwyr i hyfforddi ac arwain staff
Cynhelir y rhaglen dros gyfnod o ddau ddiwrnod gan ddatblygu sgiliau a gallu’r mynychydd i hyfforddi ac arwain ymarferwyr eraill (bydd amser gweithredu rhwng y diwrnodau)
Amser cyflwyno: 2 diwrnod
Cefnogaeth ychwanegol
Gellir teilwra cefnogaeth yn unol â gofynion penodol yr ysgol