CYNLLUNIO
MAGU HYDERNid oes amheuaeth bod hyrwyddo sgiliau cyfathrebu llafar yn datblygu hunanhyder y dysgwr gan gael effaith uniongyrchol ar les personol a hunan-barch. Bydd dysgwyr y ymgysylltu mwy â ffocws tasgau gan rhyngweithio â’u cyfoedion ac oedolion yn fwy naturiol a bwriadus a fydd yn ei dro yn arwain at well datblygiad cymdeithasol. Bydd datblygu sgiliau siarad a gwrando hefyd yn arwain at well deallusrwydd emosiynol a bydd dysgwyr yn magu mwy o empathi tuag at eraill a’r gallu cynyddol i ddeall sut maen nhw’n ymateb mewn sefyllfaoedd cymdeithasol o wrthdaro a straen.
Argymhellion er mwyn magu mwy o hyder trwy dargedu sgiliau siarad a gwrando:
-
Addysgu sgiliau siarad cyflwyniadol yn benodol
-
Addysgu disgyblion i ddefnyddio iaith lafar yn fwy effeithiol
-
Addysgu sgiliau cyflwyniadau cyhoeddus a dadlau’n gyhoeddus, yn arbennig trwy roi profiadau ‘byw’ a dilys i’r dysgwyr o wneud hyn
-
Arbrofi â ‘dulliau addysgu deialogaidd’ – sefydlu amgylchedd ddysgu yn yr ysgol ble caiff siarad o ansawdd uchel rhwng athrawon a dysgwyr ei gydnabod ac y gwneir defnydd da ohono
-
Arbrofi â strategaethau traddodiadol amrywiol o ddatblygu gallu gallu dysgwyr i gyflwyno gwybodaeth, dysgu’n gydweithredol a dadlau syniadau e.e. strategaeth Harkness, ble bydd dysgwyr a’u hathro eistedd o amgylch ‘bwrdd Harkness’ (bwrdd crwn neu hirgrwn) mewn ‘cymuned ymholi’ yn cydweithio ar lafar i ddatrys problemau
Magu hyder trwy hyrwyddo sgiliau siarad a gwrando
Cwricwlwm i Gymru
ANGEN Pa strategaethau sy’n cefnogi datblygu hyder dysgwyr?