DYSGU
PROFFESIYNOL
Beth yw rhaglen Ein Llais Ni?
Mynediad at fideo sy’n rhoi trosolwg o gynnwys Rhaglen Ein Llais Ni
yn y dosbarth a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Rhaglen Ein Llais Ni yn y Dosbarth
Galluogi ymarferwyr o bob Maes Dysgu a Phrofiad i sefydlu a gwreiddio Ein Llais Ni drwy gynllunio cyfleoedd ymarferol i ddatblygu a chymhwyso medrau siarad a gwrando. Gwneir hyn mewn cyd-destunau dilys a bywyd go iawn ar draws y cwricwlwm. 3 diwrnod – gydag amser gweithredu rhwng pob diwrnod.
Lleoliadau 2026-27:
Lleoliad 1: Prifysgol Bangor
Lleoliad 2: Abertawe
Dyddiadau a Chofrestru:
Cofrestru Prifysgol Bangor:
20 Hydref 202613 Ionawr 2027 19 Mai 2027
Cofrestru Abertawe:
4 Tachwedd 2026 26 Ionawr 2027 26 Mai 2027
Rhaglen Cefnogaeth Clwstwr
Mae’r rhaglen wedi ei seilio ar gydweithio clwstwr gan gefnogi pontio cynradd / uwchradd. Drwy hyrwyddo cydweithio ymysg athrawon ac ysgolion rhoddir lle blaenllaw i sicrhau cysondeb mewn darpariaeth, rhannu arferion llwyddiannus a datblygu cyd-ddealltwriaeth o addysgeg effeithiol a chynnydd.
Nifer cyfyngedig o gyfleoedd ar gael.
Datgan diddordeb
Bod yn Feistr ar dy Frên drwy ddefnyddio dy Lais
Gweithdy creadigol a hwyliog sy’n arfogi ymarferwyr efo hyder, dealltwriaeth o bŵer yr ymennydd a sut i gyfathrebu’n llwyddiannus trwy ddefnyddio medrau siarad a gwrando. Syniadau ymarferol ar gyfer datblygu Iechyd a Lles, hyder, meddwl cadarnhaol a medrau llafar yn y dosbarth.
Addas ar gyfer ymarferwyr 8-16 oed.
Mewn partneriaeth â Nerth dy Ben a Kariad.