CYNLLUNIO
DIGIDOLBellach, mae cyfathrebu gwybodaeth gyda chynulleidfa yn gwneud defnydd cynyddol o gyfryngau digidol ac mae’r cynnwys yn gallu cyrraedd pobl ledled y byd, 24/7. Mae’r cyfathrebu yma yn bennaf ar ffurf disgrifio, cyflwyno naratif, esbonio, rhoi cyfarwyddyd, trafod, perswadio.
Mae rhoi cyfleon a phrofiadau i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando trwy gyfathrebu digidol yn allweddol er mwyn eu paratoi ar gyfer rhyngweithio’n gymdeithasol trwy’r Gymraeg a pharatoi ar gyfer y byd gwaith yng Nghymru heddiw a’r dyfodol.
Cyfleoedd i gynnwys arfau digidol yn y broses gynllunio
Digidol yn y broses gynllunio (MP4)
Digidol yn y broses gynllunio (Google Slides)
Digidol yn cefnogi llythrennedd – tasg enghreifftiol
Mae’r cyflwyniadau hyn yn enghreifftio rôl arfau digidol mewn gweithgareddau sy’n cefnogi rhaglen Ein Llais Ni. Gellir efelychu’r broses mewn nifer o gyd-destunau a meysydd gwahanol. Cyflwynir 3 enghraifft yma:
- uned 3- 8 oed ‘Pam fod helpu eraill yn bwysig?’
- uned 8+ oed ‘A yw llwyddo’n hawdd?’
- uned 10-14 oed ‘ A yw technoleg bob amser yn beth da?’
Gweithdai Digidol – dolenni i recordiadau





