ENGHREIFFTIAU

YSGOLION

Ysgol Tryfan

3-8 oed

8-11 oed

11-14 oed

14-16 oed

Strategaeth Gornest Focsio – trafodaeth

Bwriad

Cyd-destun:

  • Blwyddyn 9, gwers Gymraeg, yn datblygu sgiliau trafod ar y thema ‘Protest’

Gweithredu:

  • Strategaeth Gornest Focsio sy’n caniatau i ddysgwyr gyflwyno safbwyntiau gwrthgyferbyniol a thargedu’r elfen ‘siarad cydweithredol’ o’r Fframwaith Llythrennedd
  • Maent wedi cyd-weithio er mwyn cywain a dehongli gwybodaeth o ddarnau darllen yn ymwneud â’r dadleuon o blaid ac yn erbyn dymchwel cerfluniau dadleuol, gan ddod i’w casgliadau eu hunain.
  • Yna yn cynnal dadl o blaid ac yn erbyn y pwnc dan sylw drwy rannu’r dosbarth yn ddau

 

Effaith

  • Iaith bwrpasol ar gyfer cynnal trafodaeth wedi datblygu yn llwyddiannus
  • Y dysgwyr yn gallu ystyried materion heriol neu ddadleuol mewn cyd-destun dilys a phwrpasol o ganlyniad i ddatblygu sgiliau darllen
  • Cynnydd mewn hyder gan bod y dysgwyr wedi cyd-weithio i gywain gwybodaeth ac hefyd yn gallu mynd yn ôl at eu grŵp i gasglu mwy o wybodaeth i gefnogi eu safbwyntiau